Cafodd mwy na 174,000 o driniaethau eu gohirio mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, yn ol ffigurau sydd wedi cael eu datgelu heddiw.
Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru, mae hyn yn golygu bod 1,346 o driniaethau wedi cael eu gohirio ar gyfartaledd bob wythnos.
Yn ôl ffigurau’r Byrddau Iechyd, cafodd 16,000 o’r triniaethau eu gohirio am nad oedd staff clinigol ar gael, 6,600 am nad oedd gwelyau ar gael a 2,700 am nad oedd cyfarpar ar gael.
“Mae pob triniaeth sy’n cael ei chanslo yn ychwanegu at yr amseroedd aros maith y mae cleifion yn wynebu am lawer triniaeth. Mae’n hollol annerbyniol fod dros 174,996 o driniaethau dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi eu canslo,” meddai Elin Jones AC, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru.
‘Recriwtio mwy’
Fe esboniodd Elin Jones AC fod Plaid Cymru wedi codi’r mater am gynllunio gweithlu gyda Llywodraeth Cymru.
“Mae’n rhaid sicrhau bod mwy yn cael ei wneud mewn ysbytai i ofalu bod cyn lleied ag sydd modd o driniaethau yn cael eu canslo yn ddiangen.”
Fe ddywedodd y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ac “yn lleihau biwrocratiaeth ddiangen.”
Daw hyn wedi i ffigurau gael eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon a amlygai fod swyddi gwag i feddygon yng Nghymru wedi “dyblu”.
Ffigurau:
Wrth ryddhau’r ffigurau, fe ddywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, “wrth nodi’r ffigurau yma, mae’n werth nodi ein bod yn gohirio triniaethau ac yn eu haildrefnu mor fuan â phosib.”
Dyma gyfanswm y gohiriadau ymhob Bwrdd Iechyd ers 2013:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: 31,257
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 16,380
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 40,714
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r fro: 41,737
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: 17,086
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 27,821