Mae adroddiad gan un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi beirniadu rhwymedigaeth y BBC i Gymru, gan alw ar y gorfforaeth i wario £30 miliwn ychwanegol ar raglenni yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi bod yn ystyried yr effaith bosibl y bydd y trafodaethau ar adnewyddu Siarter Frenhinol y BBC yn ei chael ar Gymru.
Fe esboniodd Cadeirydd y Pwyllgor, Christine Chapman AC fod cynulleidfaoedd Cymru’n defnyddio gwasanaethau’r BBC yn fwy na chynulleidfaoedd o genhedloedd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.
“Mae diffyg lluosogrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru yn golygu bod y cyhoedd yng Nghymru yn ddibynnol ar y BBC i raddau mwy nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn enwedig o ran newyddion a materion cyfoes.”
Am hynny, mae’r Pwyllgor yn cynnig 12 o argymhellion i’r BBC gan alw arnyn nhw i wario £30 miliwn ychwanegol.
‘Methu cyflawni’
Mae’r Pwyllgor o’r farn bod y BBC “wedi methu cyflawni ei rwymedigaeth” wrth sicrhau bod ei allbwn yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd a diwylliant Cymru.
Mae eu hargymhellion yn cynnwys datblygu targedau penodol ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith, gan gyflwyno adroddiad blynyddol ar y cynnydd.
Maen nhw hefyd am weld y BBC yn symud at strwythur ffederal, lle dylai mwy o rym a chyfrifoldeb gael eu trosglwyddo i BBC Cymru Wales, o ran rheolaeth olygyddol a chomisiynu.
‘Rhaglenni Saesneg am Gymru’
Fe ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor eu bod o’r farn bod “dirywiad sylweddol o ran buddsoddiad y BBC mewn rhaglenni Saesneg dros y ddeng mlynedd diwethaf wedi arwain at lai o oriau o raglenni sy’n benodol am Gymru.”
O ganlyniad, fe ddywedodd fod yr amserlen “wedi methu cynnig disgrifiad ac archwiliad digonol o fywydau a phrofiadau cymunedau Cymru, nac o’r newid yn y dirwedd wleidyddol ar ôl datganoli.”
Fe esboniodd fod y BBC wedi cydnabod y diffygion yn gyhoeddus, ond nad oes dim wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r materion.
S4C
Mae’r Pwyllgor am sicrhau na fydd Cymru yn derbyn toriadau llymach na rhannau eraill o’r DU, ac am hynny am weld buddsoddiad ychwanegol gwerth £30 miliwn i wasanaethau Cymru.
Fe ddywedon nhw hefyd y dylai anghenion ariannu S4C gael eu hystyried ar sail eu teilyngdod eu hunain, ar wahân i ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y BBC ar gyfer Cymru.
Galw am gael gwared ag Ymddiriedolaeth y BBC
Ddoe, roedd adroddiad annibynnol wedi argymell y dylid cael gwared ag Ymddiriedolaeth y BBC ac y dylai’r gorfforaeth gael ei rheoleiddio’n llwyr gan Ofcom.
Dywedodd Syr David Clementi, fu’n arwain yr adolygiad i’r ffordd mae’r BBC yn cael ei llywodraethu, bod ’na “wendidau” yn yr ymddiriedolaeth ac mae’n galw am ei diwygio.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y Llywodraeth yn sgil cyfres o sgandalau’n ymwneud a’r BBC dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y modd yr oedd wedi delio gyda honiadau am Jimmy Savile, ac achos enllib yr Arglwydd McAlpine ynglŷn â honiadau di-sail i gam-drin plant.
Dywedodd Syr David Clementi, cyn-ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, y byddai Ofcom yn “reoleiddiwr cadarn”.
Mae’n galw ar y BBC i gael ei llywodraethu gan un bwrdd o gyfarwyddwyr sydd a’r “cyfrifoldeb pennaf o weithredu er budd y rhai sy’n talu’r ffi drwydded.”
Ymateb Huw Jones
Wrth ymateb i adroddiad Syr David Clementi, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, mewn datganiad: “Dyw Adroddiad Clementi ddim yn cyfeirio’n uniongyrchol at S4C, ond bydd ei argymhellion, os bydd y Llywodraeth yn eu derbyn, yn anochel yn golygu rhyw newid yn y berthynas rhwng S4C a’r BBC sydd wedi bodoli ers 2013.
“Fe fuaswn yn disgwyl y bydd natur ymwneud S4C gyda’r strwythurau newydd ar gyfer llywodraethiant ac atebolrwydd y BBC yn un o’r pynciau y bydd yr adolygiad o S4C yn edrych arno maes o law.”