Swyddogion undebau a chymdeithasau Cymraeg yn ystod ymgyrch Byw yn Gymraeg Llun: Damien Baring
Mae rhai o fyfyrwyr Cymru wedi cyflwyno her i wleidyddion, penaethiaid prifysgolion a Chomisiynydd y Gymraeg i ateb eu dyheadau o ran byw’n Gymraeg ym mhrifysgolion y wlad.

Bu’r myfyrwyr yn arwyddo wal ‘Byw yn Gymraeg’ yn ystod yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn galw am ddatblygu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chryfhau’r Safonau Iaith.

Yn ôl Cymdeithas Gymraeg myfyrwyr Caerdydd, maen nhw am gael “hawliau clir i fyfyrwyr fyw, gweithio a mwynhau yn Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.”

Mae golwg360 ar ddeall hefyd bod bwriad gan lywyddion a swyddogion undebau a chymdeithasau Cymraeg y prifysgolion i gyflwyno gweledigaeth i lywodraeth nesaf Cymru yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Galw am gryfhau safonau iaith prifysgolion

Bydd y myfyrwyr hefyd yn ymgyrchu dros gryfhau Safonau Iaith y prifysgolion, gan alw am hawl i lety cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac ymestyn y safonau i undebau myfyrwyr.

Mae’r ymgyrch yn cyd-rhedeg â phrotest sydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith dros ddatblygu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y brotest yn cael ei chynnal ar 4 Ebrill, y tu allan i bencadlys y Coleg yng Nghaerfyrddin.