Yn ôl canlyniadau pôl piniwn diweddar, mae’r SNP yn yr Alban mor gryf ag erioed, er gwaethaf ymdrechion y gwrthbleidiau i’w herio.

Drwy holi 1,036 o oedolion am eu barn ynglŷn â phedwar maes polisi, roedd gwaith ymchwil asiantaeth TNS yn dangos nad oedd barn pobol yr Alban ar y Llywodraeth wedi newid braidd dim dros y chwe mis diwethaf.

Ac mae tueddiadau pleidleisio’r bobol a holwyd yn dangos bod 60% yn bwriadu pleidleisio dros yr SNP mewn seddi etholaeth yn etholiadau senedd yr Alban ymhen naw mis.

Mae 55% yn bwriadu pleidleisio dros yr SNP mewn seddi rhanbarthol.

21% oedd yn ystyried pleidleisio dros y Blaid Lafur a 13% yn bwriadu pleidleisio dros y Ceidwadwyr.

Perfformiad y Llywodraeth

Roedd 35% (+1) yn meddwl bod cyflwr Gwasanaeth Iechyd yr Alban yn dda, gyda 30% (+1)  yn meddwl ei fod yn wael.

O ran yr economi, 22% oedd yn canmol record y Llywodraeth, gyda 49% yn dweud nad oedd yn dda nac yn wael, a 24% yn credu bod y Llywodraeth yn gwneud yn wael.

Ym maes troseddu a chyfiawnder, roedd 28% yn beirniadu polisïau’r SNP a 23% yn eu canmol.

Roedd maes addysg wedi newid ychydig ers cynnal y pôl y tro diwethaf, gyda chynnydd o 4% yn credu bod y Llywodraeth yn gwneud yn dda (34%) a’r un cynnydd yn nifer y bobol oedd yn credu bod ei record yn wael (23%).

“Chwe mis ers i ni ofyn y cwestiynau hyn y tro diwethaf, does braidd dim newid wedi bod yn y farn gyhoeddus ar reolaeth (y llywodraeth) ar yr economi, y gwasanaeth iechyd a throseddu a chyfiawnder,” meddai Tom Costley, pennaeth TNS yn yr Alban.

“Gyda’r ffocws dros y misoedd nesaf yn debygol o fod ar Ewrop, mae’n debygol y bydd gwrthbleidiau yn yr Alban yn ei chael hi’n anoddach i leisio eu dadleuon ynghylch y llywodraeth.”

Ceidwadwyr ‘ar ei hôl hi’

Yn ôl y data, does dim tystiolaeth fod y Ceidwadwyr ar gynnydd yn yr Alban, er gwaethaf ei hymdrechion i gymryd lle Llafur fel yr ail blaid fwyaf yn Holyrood.

“Yn wir, os rhywbeth, maen nhw wedi cwympo yn ôl ychydig,” ychwanegodd Tom Costley.