Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes Cymru
Fe fydd £26m yn cael ei fuddsoddi er mwyn datblygu diwydiant ynni’r haul yng Nghymru, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes heddiw.

Bwriad y cyllid yw bwrw ymlaen â menter pum mlynedd i drawsnewid adeiladau yn orsafoedd pŵer, a fydd yn gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni eu hunain o’r haul.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud drwy fasnacheiddio technoleg ynni’r haul ym Mhort Talbot, yn y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC.

Daw £15m o’r arian o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, tra bod £4m yn dod o Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol a’r asiantaeth Innovate UK, gyda £7m yn dod gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.

Arian Ewrop yn “hanfodol”

Wrth wneud y cyhoeddiad yn Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg Llundain neithiwr, dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes Cymru, fod buddsoddiadau o’r math hyn gan Ewrop yn “hanfodol”.

“Mae’r fenter hon yn ymgorffori nodau Llywodraeth Cymru, nid yn unig ar gyfer economi carbon isel, ond hefyd ar gyfer cydweithio rhwng llywodraethau, prifysgolion a busnesau i fasnacheiddio ymchwil arloesol, a sbarduno twf a swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel ledled Cymru,” meddai.

‘Ateb realistig, risg isel’ i heriau ynni

Cafodd canolfan SPECIFIC ei sefydlu yn 2011, ac mae’n cael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Tata Steel, BASF a NSG Pilkington.

“Drwy gyfuno technolegau fforddiadwy ar gyfer cynhyrchu, storio a rhyddhau solar mewn system integredig rydym yn cynnig ateb realistig risg isel, cost isel i’r heriau ynni,” meddai Kevin Bygate, Prif Swyddog Gweithredol SPECIFIC.

“Ar raddfa lawn, gallai’r cysyniad  ‘adeiladau fel gorsafoedd pŵer’ sicrhau gostyngiad sylweddol mewn gwresogi nwy, lleihau’r straen ar y grid trydanol ar adegau prysur, ac yn ffynhonnell rad, adnewyddadwy o ynni ar gyfer perchnogion a deiliaid adeiladau.”