Mae erlynwyr wedi rhoi’r gorau i achos yn erbyn dyn a oedd wedi’i gyhuddo o lofruddio 29 o bobl yn ystod ymosodiad bom Omagh ym  1998.

Roedd Seamus Daly, 45, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ers cael ei gyhuddo o’r ymosodiad gan y Gwir IRA a chyfres o droseddau brawychol eraill ym mis Ebrill 2014.

Saith mlynedd yn ôl, roedd Daly yn un o bedwar o ddynion a gafodd eu herlyn yn llwyddiannus am fomio’r dref yn Swydd Tyrone mewn achos sifil a gafodd ei ddwyn gan rai o deuluoedd y bobl gafodd eu lladd yn yr ymosodiad.

Nid oes unrhyw un wedi eu cael yn euog am y llofruddiaethau mewn llys troseddol.

Roedd Daly, o Swydd Armagh, wedi gwadu bod ganddo unrhyw ran yn y bomio yn ystod y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.

Daw penderfyniad Gwasanaeth Erlyniadau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (PPS) cyn i achos Daly hyd yn oed gyrraedd Llys y Goron.

Tystiolaeth

Cafodd gwrandawiad cychwynnol ei gynnal yn Llys Ynadon Omagh wythnos ddiwethaf i benderfynu a oedd digon o dystiolaeth gadarn i gynnal yr achos.

Mae’r penderfyniad hwnnw bellach wedi ei gymryd o ddwylo’r Barnwr Peter King ar ôl i’r PPS ddweud ei fod yn tynnu’r cyhuddiadau yn ôl cyn i’r gwrandawiad ddod i unrhyw gasgliadau.

Mae’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn bellach wedi cael eu gollwng.

Yn 2009 cafodd Daly a thri dyn arall orchymyn i dalu £1.6 miliwn o iawndal i deuluoedd y rhai fu farw yn Omagh.

Bu’n rhaid i Daly wynebu ail achos sifil ar ôl iddo apelio’n llwyddiannus yn erbyn y canfyddiad gwreiddiol, ond fe ddyfarnodd y barnwr Mr Ustus John Gillen bod Daly yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Yn 2007, cafwyd Sean Hoey o Jonesborough, yn ddieuog o’r 29 llofruddiaeth yn dilyn achos yn Llys y Goron Belffast.

Ar y pryd, roedd y barnwr Mr Ustus Weir yn hynod feirniadol o’r Royal Ulster Constabulary a’i olynydd, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, am y modd yr oedd wedi ymdrin â’r ymchwiliad.