Fe fydd Aelodau Seneddol o Gymru yn ymweld â chanolfan i geiswyr lloches yng Nghaerdydd heddiw er mwyn gweld y sefyllfa dros eu hunain.

Bu Lynx House yn y penawdau yn gynharach eleni wedi iddi ddod i’r amlwg fod y preswylwyr yn gorfod gwisgo bandiau coch llachar ar eu harddwn er mwyn cael prydau bwyd.

Roedd pryder hefyd fod y ceiswyr lloches yn cael eu cadw mewn amodau byw gwael, a bod gormod o bobol yn cael eu cadw yno.

Cafodd y polisi bandiau ei ddiddymu gan Clearsprings Ready Home, oedd yn rhedeg y ganolfan, ar ôl beirniadaeth lem o sawl cyfeiriad gan gynnwys y Prif Weinidog Carwyn Jones.

‘Argyfwng yn parhau’

Ddydd Llun fe fydd aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â’r ganolfan i weld dros eu hunain sut amodau sydd yn wynebu’r ceiswyr lloches.

“Fel Pwyllgor, ry’n ni’n teimlo ei bod yn bwysig dod at wraidd y straeon Cymreig sy’n ymddangos ar y newyddion,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies.

“Mae Lynx House wedi bod yn bwnc llosg yn y wasg Brydeinig ac ry’n ni’n awyddus i ymweld â’r lle ein hunain.

“Ry’n ni’n cynnig lloches i dros 1,000 o ffoaduriaid ar hyn o bryd yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn craffu ar y mater am nad yw’r argyfwng yn debygol o ddod i ben yn fuan.”