Fe fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn achosi “degawd a mwy o ansicrwydd” i Brydain, yn ôl swyddogion Whitehall.

Mae’r astudiaeth swyddogol gyntaf gan y Llywodraeth, sydd wedi cael ei weld gan The Guardian, yn rhybuddio y byddai’r broses “gymhleth” o gytuno ar delerau i adael yr UE a threfniadau newydd eraill yn cael effaith ar y marchnadoedd arian, y bunt a hawliau dwy filiwn o Brydeinwyr sy’n byw dramor, yn ôl adroddiadau.

Fe fydd rhyddhau canlyniadau’r astudiaeth yn arwain at ragor o gyhuddiadau gan ymgyrchwyr o blaid Brexit bod David Cameron yn ceisio defnyddio tactegau i “godi ofn” ar bobl i sicrhau pleidlais i aros yn rhan o’r UE yn y refferendwm ym mis Mehefin.