Bydd tri undeb llafur ym maes addysg yn dwyn pwysau ar Aelodau Cynulliad heddiw wrth alw am ragor o gyllid i ddysgu llawn amser a rhan amser ôl-16.
Daw’r galwad wrth i UCU, UCM CYMRU ac Unsain Cymru lansio ymgyrch a fydd yn ceisio darbwyllo’r angen i fuddsoddi mewn dysgu gydol oes ac mewn dysgu rhan amser.
Mae’r lansiad yn dod yn dilyn pryderon gan y Brifysgol Agored yng Nghymru bod y nifer sy’n dewis astudio cyrsiau addysg uwch rhan amser wedi lleihau 11%.
Yn ôl yr undebau mae “toriadau sylweddol” i addysg ôl-16 wedi bwrw cymunedau difreintiedig, menywod a grwpiau lleiafrifol mwyaf.
Ac mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n dewis astudio rhan amser, yn gorfod gwneud hynny heb gymorth na chydweithrediad gan eu cyflogwyr.
Annog rhagor o ddysgwyr
“Os ydym am Gymru decach, rhaid i ni wneud addysg yn fwy hygyrch,” meddai Ebbi Ferguson o UCM Cymru.
“Mae ein colegau a’n prifysgolion yn cynnig ail siawns hanfodol i oedolion sydd am ddatblygu eu sgiliau ac i’r sawl o gymunedau difreintiedig.
Yn ôl Simon Dunn o Unsain Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod “dysgu hyblyg, rhan amser mor bwysig â astudio llawn amser,” er mwyn annog mwy o oedolion i fynd yn ôl i fyd addysg.
Bydd lansiad yr ymgyrch yn digwydd heddiw am 12:30pm yn Adeilad ATRiuM, Prifysgol De Cymru, Caerdydd.