Gorymdaith Gwyl Ddewi yng Nghaerfyrddin heddiw (llun: Alun Lenny)
Fe orymdeithiodd bron i fil o bobl drwy strydoedd Caerfyrddin y prynhawn yma ar ddechrau wythnos o weithgarwch i ddathlu Gwyl Ddewi.

Dyma’r tro cyntaf i ‘Parêd Dewi Sant’ gael ei gynnal yng Nghaerfyrddin, a dywedodd y Cyng Peter Hughes Griffiths, Cadeirydd Cyngor Sir Gâr, ei fod yn hynod o falch i weld bod y fath dorf fawr wedi dod ynghyd.

Yn eu plith roedd nifer o feiri a chadeiryddion cynghorau tre a chymuned lleol, yn ogystal ag aelodau capeli ac eglwysi lleol, nifer o fudiadau ac aelodau o’r cyhoedd.

Roedd dau fand, pibydd a chôr meibion yn chwarae ac yn canu wrth gerdded, a thywysydd  y pared oedd yr arwr rygbi Delme Thomas – capten tim Llanelli a drechodd y Crysau Duon yn y gêm enwog yn 1972.

Bydd gweithgarwch gweddill yr “Wythnos Gymreig” yn cynnwys arddangosfeydd celf, crefft a choginio; noson Talwrn y Beirdd; cystadleuaeth i ganfod pa fwyty neu dafarn sy’n gwneud y cawl gorau; gorymdaith o 300 o blant mewn gwisg genedlaethol ar ddydd Gŵyl Ddewi ei hun, a Cyngerdd Gala mawr yn Theatr y Lyric nos Sadwrn nesa.