Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur yn annerch y dorf (llun: PA)
Mae degau o filoedd o bobl wedi bod yn gorymdeithio drwy Lundain y prynhawn yma i ddangos eu gwrthwynebiad i adnewyddu’r system arfau niwclear Trident.
Ymhlith yr 20 a mwy o siaradwyr roedd arweinwyr Llafur, Plaid Cymru a’r SNP a chyn-arweinydd y Gwyrddion.
Wrth annerch y rali yn Trafalgar Square, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, fod Trident yn ‘anfoesol’ ac yn ‘anymarferol’.
“Byddai defnyddio arfau niwcliear yn arwain at gyflafan a dioddefaint ar raddfa na ellir ei dychmygu,” meddai.
Dywedodd Caroline Lucas, cyn arweinydd y Blaid Werdd, mai ‘relic o’r rhyfel oer’ oedd arfau niwclear.
Jeremy Corbyn oedd y siaradwr olaf, a apeliodd ar i bawb ystyried beth fyddai effeithiau arfau niwclear pe baen nhw’n cael eu defnyddio.
“Rydym yn byw mewn byd lle mae cymaint o bethau’n bosibl,” meddai. “Lle mae heddwch yn bosibl mewn cymaint o leoedd. Dydych chi ddim yn sicrhau heddwch trwy baratoi at ryfel, cipio adnoddau a pheidio â pharchu hawliau dynol ein gilydd.
“Mae’r gwrthdystiad heddiw’n fynegiant o farn llawer o bobl. Dw i yma oherwydd fy mod i’n credu mewn Prydain ddi-niwclear a dyfodol di-niwclear.”