Huw Prys Jones yn trafod oblygiadau ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd i Gymru

Wrth ymweld â Chymru ddoe, fe ddywedodd y Prif Weinidog David Cameron un peth sy’n haeddu sylw penodol.

Dywedodd na fyddai llywodraeth Prydain yn gallu gwarantu digolledu Cymru am yr arian y byddai’n ei golli petai pleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

O safbwynt ymgyrch y refferendwm, mae yn llygad ei le i ddweud hyn. Byddai dweud yn wahanol yn bropaganda ar blât i’r ‘ymadawyr’ sy’n dadlau y gallai llywodraeth Prydain roi mwy i Gymru nag y mae hi’n ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Ar y llaw arall, mae modd dehongli’r hyn y mae’n ei ddweud fel cyfaddefiad hefyd nad ydi’r wladwriaeth Brydeinig yn rhoi’r un flaenoriaeth ag y mae’r Undeb Ewropeaidd i rannu cyfoeth i ardaloedd tlotach.

Dyma’r union fath o beth y dylai cenedlaetholwyr Cymru fanteisio arno – a dadlau bod mwy o chwarae teg i’w gael i Gymru gan yr Undeb Ewropeaidd nag a fyddai gan Brydain.

Annibyniaeth barn

Mae’n wir na fyddai dadlau dros roi mwy o ffydd yn yr Undeb Ewropeaidd nag ym Mhrydain yn safbwynt neilltuol o boblogaidd. Ni ellir bychanu graddau y mae llawer o bobl Cymru wedi llyncu cenedlaetholdeb Prydeinig/Seisnig y gwrth-Ewropeaid yng Nghymru.

Ar y llaw arall, pa obaith sydd i ddyfodol unrhyw ymwybyddiaeth Gymreig ac annibyniaeth barn yng Nghymru oni fydd rhywun yn gwneud safiad cadarn yn erbyn cenedlaetholdeb Seisnig Ukip a’u tebyg?

Un o’r prif beryglon sy’n wynebu’r ymgyrch yw na fydd y rheini sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu hysbrydoli’n ddigonol i droi allan i bleidleisio.

Mae’n iawn defnyddio dadleuon am y nifer o swyddi yng Nghymru a Phrydain sy’n ddibynnol ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond i’r rheini ohonom sy’n teimlo’n hunain yn fwy o Gymry ac Ewropeaid nag o Brydeinwyr, mae angen llawer mwy na hynny.

Mae angen llawer mwy o negeseuon adeiladol dros ymfalchïo yn yr hyn y gall Ewrop ei gyflawni gyda’n gilydd.

Beth sydd o’i le ar y syniad o uwch-wladwriaeth Ewropeaidd prun bynnag? O gofio am ryfeloedd diangen ac anghyfreithlon Prydain yn y Falkland ac Irac, meddyliwch faint o fywydau fyddai wedi cael eu hachub petai polisi tramor a milwrol unedig wedi bod yn Ewrop dros y 30 mlynedd ddiwethaf.

Gwahaniaethau diwylliannol

Lleiafrif bach ydan ni fel Cymry gwlatgar wrth gwrs, ond mae’r ymgyrch yn gyfle inni dynnu sylw at y gwahaniaethau diwylliannol sydd rhyngon ni a’r Saeson ynysig.

Mae’n gyfle inni hefyd fanteisio ar bob cyfle i danseilio gwerthoedd a daliadau cenedlaetholwyr Seisnig dros y misoedd nesaf.

Dirmygu eu syniadau hen-ffasiwn ar sofraniaeth, eu obsesiwn gyda’r genedl wladwriaeth, a hefyd gwneud sbort am ben y syniad y byddai neb yn cymryd unrhyw sylw o’r hyn y byddai gan wlad mor fach â Phrydain annibynnol i’w ddweud.

Mae trechu eu meddylfryd yn hanfodol i ddyfodol unrhyw ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru.

Roedd gwleidyddion y Cynulliad wedi dangos pryder dro’n ôl y byddai refferendwm Ewrop yn taflu cysgod dros etholiad y Cynulliad.

Dw i’n meddwl y bydd hynny’n anochel – er bod gen i ofn mai arnyn nhw y mae rhan helaeth o’r bai am hynny.

Y rheswm y bydd mwy o ddiddordeb yn hynt a helynt y refferendwm nag yn etholiad y Cynulliad ydi bod llawer o bynciau’r etholiad hwnnw mor ddiflas. Mae’r holl bleidiau fel petaen nhw’n sylfaenu eu hapêl ar pwy sy’n gallu addo fwyaf i’r etholwyr.

Yr hyn sy’n rhaid iddyn nhw’i sylweddoli ydi y bydd llawer mwy yn y fantol yn y bleidlais ar 23 Mehefin na phwy ohonyn nhw fydd yn cael eu hethol ym mis Mai.