Nigel Farage, arweinydd Ukip (llun: PA)
Wrth annerch cynhadledd wanwyn Ukip yn Llandudno, galwodd yr arweinydd Nigel Farage am ymgyrch unedig er mwyn sicrhau pleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.

Rhybuddiodd y bydd angen cefnogaeth pobl o bob barn wleidyddol er mwyn i’r ymgyrch lwyddo.

“Allwn ni ddim, a fyddwn ni ddim, yn ennill y refferendwm hwn trwy gefnogaeth pobl ar asgell dde ganol gwleidyddiaeth yn unig,” meddai.

“Mae’n rhaid inni gefnu ar unhyw wahaniaethau sydd wedi’n rhannu ni ar faterion eraill yn y gorffennol.

“Hwn fydd y penderfyniad gwleidyddol pwysicaf y bydd unrhyw un ohonon ni’n ei wneud yn ystod ein hoes.

“I mi, mae unrhyw wahaniaethau gwleidyddol rhwng pobl ar y dde, neu’r canol, neu’r chwith, yn amherthnasol.

“Nid brwydr rhwng y chwith a’r dde yw hon ond brwydr ynghylch pwy sy’n llywodraethu’r wlad.

“Gadewch inni wneud 23 Mehefin 2016 yn ddiwrnod annibyniaeth y Deyrnas Unedig.”

Ymysg areithwyr eraill y gynhadledd roedd arweinydd Cymru, Nathan Gill, a rhai o ymgeiswyr Ukip yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, gan gynnwys dau a siaradodd yn y Gymraeg.