Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu fferm solar fwyaf Cymru ar Ynys Môn, yn dibynnu sêl bendith gan y cyngor.
Y bwriad gan Countryside Renewables yw datblygu 220 o aceri ar dir amaethyddol yn Llanbadrig, ar arfordir gogleddol yr ynys.
Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, bydd yn cynhyrchu digon o ynni i roi pŵer i 15,500 o dai y flwyddyn, sef hanner y cartrefi ar yr ynys.
Yn ôl y cwmni arolygu tir, ERW Consulting, dros y 30 mlynedd nesaf byddai’r fferm yn gostwng lefelau carbon deuocsid a fydd cyfwerth â thynnu 14,000 o geir oddi ar y ffordd.
Gwrthwynebiad lleol
Dywedodd Elfed Williams, Ymgynghorydd Cynllunio i’r cwmni fod “gwrthwynebiad bychan” i’r cynllun gan breswylwyr y tai sy’n byw gerllaw i’r safle lle mae disgwyl i’r fferm gael ei hadeiladu.
“Byddwn yn negyddu’r effaith ar y tai hynny (wrth adeiladu) ac er bod un neu ddwy broblem wedi codi, mae hynny’n bodloni’r adran gynllunio (Cyngor Môn),” meddai wrth golwg360.
Yn ôl Elfed Williams, ni fydd effaith weledol fawr wrth adeiladu’r fferm, ac mae hynny yn dderbyniol i’r swyddogion cynllunio.
Ychwanegodd hefyd y byddai ERW Consulting, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r tir, yn rhoi cyfraniad ariannol “sylweddol” i’r gymuned leol, ond doedd ddim yn barod i ddatgelu faint.
Croesawu’r datblygiad
“Mae maint ac ansawdd yr haul mae Sir Fôn yn ei gael yn dda iawn, mae e bron cystal â’r haul yn arfordir de Cymru,” meddai Gareth Clubb, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.
“Mae’r dechnoleg wrth gwrs wedi hen brofi ei hun ac yn gweithio’n dda iawn, ac o ran newid hinsawdd, mae hynny’n beth positif.”