Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhuddo dyn 33 oed o lofruddio mam ifanc leol, 27 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat ar Stryd Fawr Hwlffordd yn ystod yr oriau mân fore dydd Llun, lle cafwyd hyd i gorff Natasha Bradbury.

Mae disgwyl i Luke George Jones ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli y bore ‘ma ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Mae teulu Natasha Bradbury yn cael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.