Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau y bydd 31 o bobol yn wynebu cyhuddiadau yn dilyn anhrefn yn Nhrelái yng Nghaerdydd fis Mai y llynedd.

Bydd ugain oedolyn a saith person ifanc yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Fedi 19 ac 20, wedi’u cyhuddo o achosi terfysg.

Bydd tri oedolyn ac un person ifanc arall yn wynebu cyhuddiadau o fygwth neu gyflawni difrod troseddol.

Dechreuodd yr anhrefn yn dilyn marwolaeth dau fachgen yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad.

Cafodd sïon eu lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol mai’r heddlu oedd ar fai am y digwyddiad, am fod y bechgyn wedi bod yn ffoi rhagddyn nhw.

Ymhlith y troseddau gafodd eu cofnodi yn ystod yr anhrefn roedd llosgi cerbydau a gwrthdaro corfforol.

Cafodd naw person eu harestio bryd hynny.

‘Ofn’

“Yn ystod yr anhrefn, cafodd sawl cerbyd eu cynnau ar dân, cafodd eiddo personol ei ddifrodi, cafodd swyddogion yr heddlu eu niweidio, ac roedd ofn ar drigolion yn eu tai’u hunain,” meddai’r Prif Uwch Arolygydd Danny Richards o Heddlu’r De.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gael cefnogaeth y gymuned drwy gydol yr ymchwiliad, a nawr mae’n rhaid aros am ganlyniad yr achosion llys.”

Er bod dau o blismyn wedi derbyn rhybuddion camymddwyn gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, mae cwestiynau o hyd ynglŷn â’r ffordd y gwnaeth yr heddlu ac Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De, ymateb i’r digwyddiadau.

Heddlu’r De yn cyhoeddi llinell amser ar ôl gwrthdrawiad Trelái

Daw hyn yn dilyn dryswch, wrth i’r heddlu ddweud na all “ddim byd esgusodi” yr anhrefn nos Lun (Mai 22)

‘Sïon wedi cyfrannu at yr anhrefn yn Nhrelái’

Cadi Dafydd

Mae un sy’n byw yn Nhrelái ac a oedd yn dyst i’r anhrefn yno’n credu bod y gymuned wedi “cael eu gadael lawr yn wael” gan yr heddlu