Yn ôl Taclo’r Tacle, mae cynnydd yn nifer y troseddwyr sy’n camddefnyddio parciau carafanau a gwyliau yng ngogledd Cymru yn “bygwth diogelwch a lles cymunedau lleol”.
Mae’r “troseddwyr peryglus” yn llogi carafanau a chabanau mewn meysydd carafanau a gwyliau gwledig er mwyn cadw deunydd anghyfreithlon, gan gynnwys cyffuriau, arfau a nwyddau eraill.
Mae’r sefydliad wedi lansio ymgyrch hysbysebu ar y radio er mwyn ceisio annog y cyhoedd i adrodd yn ddienw am unrhyw wybodaeth ynglŷn â gangiau troseddol neu ymddygiad amheus yn eu hardal.
Yn ôl y swyddogion, mae’r troseddwyr gan amlaf yn targedu ardaloedd lle maen nhw’n ymwybodol bod mewnlifiad o ymwelwyr a phresenoldeb llai’r heddlu yn gymorth iddyn nhw gyflawni eu nodau anghyfreithlon.
Gall gweithgarwch amheus gynnwys:
- cerbydau yn gadael a chyrraedd yn aml yn ystod oriau anarferol
- carafanau neu gabanau sydd â niferoedd uchel o ymwelwyr am gyfnodau byr
- symiau mawr o arian parod neu eitemau gwerthfawr eraill yn cael eu symud o gwmpas.
Dywed Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Taclo’r Tacle, fod “troseddwyr peryglus yn gobeithio cuddio mewn golwg amlwg wrth ecsbloetio’r neilltuaeth heddychlon o barciau gwyliau yng Ngogledd Cymru”.
“Mae hyn yn bygwth diogelwch a lles cymunedau lleol, yn ogystal â’r teuluoedd niferus sy’n ymweld i chwilio am seibiant llonydd a diogel,” meddai.
Ychwanega eu bod yn ymwybodol fod troseddwyr yn gallu dychryn unigolion fel nad ydyn nhw’n cysylltu â’r sefydliad.
“Drwy gydweithio a siarad am yr hyn a welwch, gallwn ni fod yn llygaid ac yn glustiau yn y mannau mwyaf ynysig hyn,” meddai.
“Mae Taclo’r Tacle yn sicrhau nad oes gofyn am unrhyw fanylion personol na’u cymryd, gyda’r elusen yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol yn uniongyrchol i’r heddlu i ymchwilio ar eich rhan.
“Mae miliynau o bobol wedi ymddiried yn Crimestoppers/Taclo’r Tacle dros y blynyddoedd – rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw i gyd.”
Mae modd cysylltu â Taclo’r Tacle drwy lenwi ffurflen ddienw ddiogel neu ffonio eu Canolfan Gyswllt ar 0800 555 111.