Bydd gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael codiad cyflog, medd Llywodraeth Cymru.
Fe fydd staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, athrawon, gweision cyhoeddus a staff cyrff cyhoeddus megis Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cynnydd cyflog rhwng 5% a 6% yn 2024-25.
Daw’r cyhoeddiad gan Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi i’r Llywodraeth dderbyn argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol.
Golyga’r codiadau cyflog fod y cynnydd yn uwch na chwyddiant.
- Bydd athrawon y cael codiad cyflog gwerth 5.5%.
- Bydd staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid yn cael codiad cyflog o 5.5%
- Bydd meddygon a deintyddion, gan gynnwys meddygon teulu, yn cael codiad cyflog gwerth 6%, a bydd £1,000 ychwanegol i feddygon iau.
Ar gyfartaledd, bydd gweision sifil a staff nifer o gyrff cyhoeddus megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Banc Datblygu Cymru’n cael codiad cyflog o 5%.
“Mae pobol ledled Cymru wedi dweud wrthon ni dros yr haf mai gweithwyr y sector cyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw – o’r nyrsys yn ein Gwasanaeth Iechyd i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru,” meddai Eluned Morgan.
“Maen nhw eisiau iddyn nhw gael eu gwobrwyo’n deg am eu gwaith hanfodol.
“Mae’r dyfarniadau cyflog hyn yn arwydd o’n gwerthfawrogiad a’n parch tuag at eu gwaith caled.
“Ond mae’r cyhoedd hefyd wedi pwysleisio eu bod nhw eisiau i wasanaethau cyhoeddus wella – yn enwedig yn y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.
“Byddwn ni’n gweithio gyda’r gwasanaethau hyn i weithredu ar yr hyn ddywedodd pobol wrthon ni yn yr ymarfer gwrando dros yr haf.”
‘Gwobrwyo’n deg’
Mae TUC Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad, a’r ffaith eu bod nhw’n cyd-fynd â’r hyn sydd wedi cael ei gynnig i weithwyr yn Lloegr.
“Rydyn ni wedi pwysleisio wrth y llywodraeth pa mor bwysig ydy hi ein bod ni’n osgoi gohiriad fel hyn yn y dyfodol,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol Shavanah Taj.
“Mae gweithwyr y sector gyhoeddus wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus megis ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysgolion, ac mae’n iawn eu bod nhw’n cael eu gwobrwyo’n deg am eu holl waith.
“Yr undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr y sector cyhoeddus fydd yn mynd â’r cynigion hyn at eu haelodau nawr, a nhw fydd yn penderfynu a ydyn nhw’n dderbyniol.”
‘Arwydd da’
Wrth groesawu’r codiadau cyflog, dywed Tom Hoyles, Uwch Drefnydd undeb GMB, fod gweld Eluned Morgan yn blaenoriaethu cael cytundeb cyflog i’r gwasanaethau cyhoeddus mor gynnar yn ei chyfnod wrth y llyw “yn arwydd gwych”.
“Yr unig ffordd o dyfu’n economi yw drwy roi arian ym mhocedi gweithwyr,” meddai.
“Mae’n bwysig bod y ddwy Lywodraeth Lafur yn parhau i flaenoriaethu hynny.
“Byddwn ni’n rhoi’n cynnig hwn i’n haelodau nawr, a nhw fydd yn cael dweud eu dweud.”
‘Hirddisgwyliedig’
Dywed Heledd Fychan, llefarydd cyllid Plaid Cymru, fod y codiad cyflog yn un “hirddisgwyliedig”.
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n gyson dros weithwyr y sector cyhoeddus i gael cyflog teg am y gwaith amhrisiadwy maen nhw’n ei wneud dros ein gwlad,” meddai.
“Rydym yn glir na ddylai gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru orfod aros am gyhoeddiadau yn Lloegr cyn derbyn cynigion cyflog gwell.
“Dyna pam mae angen model cyllido teg arnom ar frys i roi’r diwedd i ddibyniaeth Cymru ar benderfyniadau gwleidyddol gaiff eu gwneud dros y ffin.
“Fodd bynnag, mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi datgan ers tro bod yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu ar draws y Gwasanaeth Iechyd a’r sector addysg yn mynd y tu hwnt i dâl yn unig.
“Os ydym am fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw ar draws y sector cyhoeddus, rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wrando ar y sectorau hyn a gweithio gyda nhw ar frys i wella telerau ac amodau gweithwyr yn gyffredinol.”