Mae adeilad sydd wedi’i lleoli ar un o ffyrdd prysuraf Caerdydd, yn cael ei ddymchwel er mwyn adeiladu fflatiau i fyfyrwyr.

Mewn cyfarfod ddydd Iau (Medi 5), fe gymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd gynlluniau ar gyfer llety myfyrwyr ar safle Cwrt Longcross, Heol Casnewydd.

Cafodd yr adeilad ei adeiladu yn y 1970au fel bloc o swyddfeydd, ac mae’n gartref i nifer o fusnesau gan gynnwys Channings, siop fetio Betfred, ac Adventure Rooms.

Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys deunaw llawr, 706 o ystafelloedd preifat, caffi a thua 480m o ofod swyddfa.

Effaith negyddol

Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywed un aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y Cynghorydd Jon Shimmin, y bydd y prosiect yn cael effaith negyddol ar gymeriad yr ardal, gan ychwanegu nad yw prif floc y datblygiad “yn gwella” y safle nac yn ychwanegu “dim at nenlinell Caerdydd”.

Er hynny, mae aelodau eraill o’r pwyllgor, megis y Cynghorydd Sean Driscoll a’r Cynghorydd Adrian Robson, o blaid y cynlluniau ac yn galw’r safle presennol yn “ddifrifol”.

Dywed y ddau gynghorydd, fodd bynnag, fod ganddyn nhw bryderon ynglŷn â chodi a gollwng myfyrwyr ar ddechrau a diwedd y tymor.

Bydd yn ofynnol i’r datblygwyr gyflwyno cynllun i egluro sut fyddan nhw’n rheoli traffig yn ystod yr adegau hyn.

Pryderon oedd gan aelodau eraill o’r pwyllgor oedd colli gofod swyddfa yn gyffredinol, yn ogystal ag ansawdd bywydau myfyrwyr wedi i swyddogion cynllunio egluro nad yw mwy na chwarter yr unedau’n gallu cael digon o olau.

Dywed y Cynghorydd Shimmin nad oes “mwy na chwarter o’r unedau yn cyflawni lefelau golau digonol, ac mae hynny’n annerbyniol”.

“Dyma’r lleoliad, lle gall fyfyrwyr ymlacio yn y ddinas,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n annerbyniol ar gyfer eu hiechyd meddwl.”

Nododd swyddogion cynllunio’r cyngor fod y lefelau golau yn y mannau hyn yn destun gofid.

Ond ychwanegon nhw fod y raddfa hon o effaith yn cael ei hystyried yn rhan o’r cynlluniau ehangach a’r manteision posibl eraill ddaw yn sgil y datblygiad.

Bydd mannau cymunedol ar y safle hefyd, fel sinema, campfa a gardd ar y to.

Dywedwyd wrth aelodau’r pwyllgor fod amod yn ei le i sicrhau mai dim ond ar gyfer llety myfyrwyr y caiff y datblygiad ei ddefnyddio, ac nid ar gyfer llety mwy parhaol.