Mae’r cynnydd bychan yng nghyfradd ddiweithdra Cymru’n “newyddion digalon”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobol dros 16 oed yng Nghymru’n 4% rhwng Mai a Gorffennaf eleni.

Mae hynny’n gynnydd o 0.5% o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod angen cymryd gofal wrth asesu beth sy’n digwydd i’r farchnad lafur yng Nghymru ar hyn o bryd “oherwydd y gwahanol ffynonellau data a’u tueddiadau”.

Fodd bynnag, fe wnaeth cyfradd y rheiny mewn gwaith gynyddu gan 0.8%, i 69.8%, yn ystod y chwarter.

Roedd cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru rhwng Mai a Gorffennaf yn 27.2%, sy’n ostyngiad o 1.2% ers y chwarter blaenorol hefyd.

Ond roedd hynny dal 2.8% yn uwch na’r un cyfnod y llynedd.

‘Blaenoriaethau anghywir’

Dywed Samuel Kurtz, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn newyddion “digalon ar ôl nifer o fisoedd cythryblus yng Nghymru, gyda gweinidogion yn colli’u canolbwyntiad”.

“Mae economi Cymru angen stiwardiaeth sefydlog i ddadwneud y tueddiad hwn ond gyda thri Phrif Weinidog mewn blwyddyn, dyw Cymru ddim yn cael hynny gan Lafur.

“Mae blaenoriaethau Llafur yn anghywir, dydyn ni ddim angen mwy o wleidyddion, rydyn ni angen mwy o swyddi Cymreig.

“Rhaid canolbwyntio eto ar fagu’r amgylchedd, drwy uwchsgilio a chyfleoedd economaidd, sydd ei hangen i dyfu’r economi.”

‘Angen cymryd gofal’

Wrth ymateb dywed Llywodraeth Cymru bod ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael eu dosbarthu fel ‘ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu’.

“Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwadol yn parhau â’u gwaith i wella eu hamcangyfrifon o’r farchnad lafur, a disgwylir y bydd ffynhonnell ddata fwy cadarn yn cael ei darparu drwy’r Arolwg y Llafurlu ar ei Newydd Wedd,” medd llefarydd ar eu rhan.

“Disgwylir diweddariad ynghylch pa bryd bydd yr amcangyfrifon cyntaf o’r data ar gael yn gynnar yn 2025.

Ar hyn o bryd, mae angen cymryd gofal wrth asesu beth sy’n digwydd i’r farchnad lafur yng Nghymru oherwydd y gwahanol ffynonellau data a’u tueddiadau.

“Caiff y canlyniadau pennawd ystadegau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd eu cynhyrchu gan y SYG o’r Arolwg o’r Llafurlu.

“Fodd bynnag, mae data o Arolwg o’r Llafurlu yn arbennig o gyfnewidiol ar hyn o bryd, gan arddangos rhai newidiadau mawr rhwng cyfnodau.

“Gall fod nad yw’r rhain yn gwbl gynrychioliadol o beth sy’n digwydd mewn gwirionedd yn y farchnad lafur ar hyn o bryd.

“Y ffordd orau o ddeall y farchnad lafur yng Nghymru yw drwy ystyried tueddiadau tymor hir ar draws ystod o ddangosyddion.

“Mae hyn yn cynnwys ffynonellau amgen fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Tollau Ei Fawrhydi (CThEF) am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gweithlu, a’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau.

“Mae data’r Arolwg Blynyddol diweddaraf o’r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 yn dangos bod cyfradd cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu dros y flwyddyn i 73.5%.

“Mae’r duedd hirdymor ar gyfer y gyfradd gyflogaeth hefyd wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r bwlch yn culhau o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig.

“Mae data gweinyddol gan CThEF yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig wedi bod yn cynyddu ar y cyfan dros y blynyddoedd diwethaf gyda 1.32 miliwn o weithwyr cyflogedig yng Nghymru ym mis Awst 2024.”

Ychwanega bod adroddiad Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang (GEM) Cymru 2023 yn dangos y cynnydd mwyaf erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru.

Cymru’n gweld y twf mwyaf erioed mewn entrepreneuriaeth

Mae 14% o bobol ifanc bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau busnes cyfnod cynnar, yn ôl yr ystadegau diweddaraf