Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd, yn ôl ystadegau newydd ar gyfer 2023.

Yn ôl adroddiad Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang (GEM) Cymru 2023, mae 14% o bobol ifanc bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau busnes cyfnod cynnar.

Mae hynny’n gynnydd o’r 2% gafodd ei nodi yn 2002.

Ar ben hynny, mae’r adroddiad hefyd yn dangos y lefelau uchaf erioed o ran cyfraddau busnesau cyfnod cynnar.

Mae’r adroddiad yn canfod fod cyfradd Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar (TEA) yng Nghymru wedi cyrraedd 11.5% digynsail yn 2023, sy’n gynnydd sylweddol o gymharu â 7.8% yn 2022.

Mae’r adroddiad GEM yn dangos bod 20% o oedolion oed gwaith yn bwriadu dechrau busnes o fewn y tair blynedd nesaf hefyd, sy’n gynnydd o’r 15.7% ddywedodd hynny yn 2022.

‘Rhyddid a hyblygrwydd’

Un sydd wedi dechrau ei busnes ei hun yn y flwyddyn ddiwethaf yw Jade Woodhouse, sy’n 25 oed ac yn dod o Fae Colwyn.

Lansiodd hi Tots and Toddlers Soft Play ym mis Chwefror eleni.

“Roeddwn i wastad eisiau gweithio i mi fy hun – roedd y rhyddid a hyblygrwydd rhedeg fy musnes fy hun yn apelio’n fawr ataf, ond doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau,” meddai.

Cafodd hi gymorth gan Busnes Cymru, sef gwasanaeth cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, i’w lansio.

“Dyna le y gwnaeth Busnes Cymru gamu i’r adwy.

“Roedd fy nghynghorydd, Rebecca, yn anhygoel.

“Roedd hi’n credu yn fy ngweledigaeth ac yn fy arwain drwy’r camau i dyfu Tots and Toddlers Soft Play, ac yn fy helpu i ddod o hyd i gyfleoedd sy’n cyd-fynd â’m nodau.”

Jade Woodhouse

‘Mwy o bobol yn manteisio ar y cyfle’

Mae’r gyfradd TEA ar gyfer menywod yn 9.5%, ac yn 13.5% i ddynion.

“Fel y dengys adroddiad GEM 2023, mae mwy o bobol yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i ddechrau eu busnesau eu hunain,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru’n lle mae ein pobol yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma, a bod yn rhan o’n cymuned gynyddol o entrepreneuriaid sy’n llunio economi yfory.”