Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cymryd cam mawr ymlaen wrth sicrhau seilwaith digidol ar gyfer siroedd Ceredigion a Phowys.
Bydd y ddwy sir yn elwa’n sylweddol ar Brosiect Gigadid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae cytundeb fframwaith wedi’i lofnodi rhwng Building Digital UK ac Openreach.
Nod y cytundeb yw darparu band eang all drosglwyddo data fesul gigadid i rai o’r ardaloedd mwyaf anghysbell ac anodd eu cyrraedd ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys dros 42,000 o safleoedd yng ngogledd-orllewin, canolbarth a de-orllewin Cymru.
Bydd y band eang gigadid hwn yn trawsnewid Ceredigion a Phowys, ac yn sicrhau na fydd anghydraddoldebau digidol sydd wedi bod ers amser yn bodoli mwyach, medd y llywodraeth.
Mae hefyd am ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy i breswylwyr a busnesau.
Dyma “newid sefyllfa ein rhanbarth yn llwyr”, yn ôl y Cynghorydd James Gibson-Watt (Powys) a’r Cynghorydd Bryan Davies (Ceredigion), sy’n arwain eu cynghorau sir yn ogystal â chyd-gadeirio Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru.
“Bydd cyflwyno band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn esgor ar gyfleoedd newydd i’n cymunedau, ac yn eu galluogi i ffynnu yn yr oes ddigidol,” medden nhw.
“Mae’n fuddsoddiad hanfodol fydd yn ysgogi arloesi ac yn hybu twf economaidd ar draws y canolbarth.
“Byddwn ni, fel Awdurdodau Lleol, yn parhau i gydweithio â’r Llywodraeth i fynd i’r afael â’r bylchau sy’n weddill yn y ddarpariaeth yng nghanolbarth Cymru.”
Y broses
Cam cyntaf y broses o gyflwyno’r band eang gigaid hwn yw gwaith paratoi hanfodol, gan gynnwys cloddio ffosydd, a gosod cwndidau a ffeibr.
Y gobaith yw y bydd y cysylltiadau cyntaf yng Ngheredigion a Phowys yn weithredol yn ystod 2025.
Bydd y fenter hon yn galluogi preswylwyr i ffrydio cynnwys manylder uwch, cymryd rhan mewn cynadleddau fideo, a chael mynediad yn fwy hwylus i wasanaethau ar-lein.
I fusnesau – yn enwedig ym maes amaethyddiaeth, twristiaeth a’r diwydiannau creadigol – bydd band eang gwell yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer twf ac ar gyfer ehangu marchnadoedd.