Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru wedi mynegi eu gwrthwynebiad i gynlluniau i gloddio a gwerthu glo ger Caerffili.

Gobaith Energy Recovery Investments (ERI) Limited yw echdynnu tua 500,000 tunnell o lo a gwastraff o’r tomenni glo ar hen safle glo brig Bedwas dros y pump i ddeng mlynedd nesaf, a hynny’n rhan o “raglen o welliant”.

Dywed y Blaid Werdd fod y syniad y gall cwmni gloddio am lo a’i werthu i wneud elw a galw hynny’n “waith adfer [y tir]” yn “warth”.

Mae Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru eisoes wedi dweud bod angen i’r cwmni ddatgelu mwy o wybodaeth am eu cynlluniau.

‘Siomedig’

Yn ôl Phil Davies, dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, mae’r cynlluniau’n mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

“Ers cenedlaethau, mae cwmnïau wedi ecsbloetio yn enw glo,” meddai.

“Mae’n siomedig gweld Llafur Cymru a Phlaid Cymru’n caniatáu i gwmni preifat werthu glo er mwyn gwneud elw yn ystod argyfwng hinsawdd.

“Mae’n mynd yn gwbl groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

“Y safleoedd peryglus hyn yw etifeddiaeth echdynnu’r cyfoeth allan o Gymru, a chyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw talu i’w gwneud nhw’n ddiogel.”

Ar hyn o bryd, mae tomenni glo Bedwas wedi’u rhoi yng Nghategori D, ac yn cael eu diffinio fel “tomenni â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd”, sy’n golygu bod rhaid eu harchwilio nhw o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Yn rhan o’u cynlluniau, mae ERI yn amcangyfrif y bydd 90 llwyth yn cael eu cario ar lorïau mawr o’r safle bob wythnos am saith mlynedd, neu tua deunaw i ugain y diwrnod.

‘Angen cynnig ariannol i’r gymuned’

Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y rhanbarth, yn dweud bod cwestiynau wedi’u codi, megis faint o arian fyddai’n cael ei roi i’r gymuned er mwyn gwneud yn iawn am unrhyw amharu arnyn nhw, a llygredd.

“Fe wnaeth ein cymunedau dalu pris mawr yn ystod y cyfnod o gloddio am lo, a hynny heb elwa llawer,” meddai.

“Fedrwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd eto.

“Dw i’n galw ar ERI i gyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â sut maen nhw’n bwriadu cyfrannu i’r cymunedau, a sut maen nhw’n bwriadu cyfeirio’r arian hwnnw.

“O’r miliynau o bunnoedd o elw mae disgwyl i’r prosiect ei greu, mae angen cynnig arian sylweddol i’r bobol sy’n byw gerllaw hen bwll glo Bedwas.

“Os yw’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, rhaid i’r buddion ariannol arwain at etifeddiaeth hirdymor, gadarnhaol i gymunedau.”

‘Cadw meddwl agored’

Ar wefan y cwmni, mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn dweud bod y cynllun yn anelu at ostwng y tomenni ym Medwas, ac “adfer y tir yn llwyr ar gyfer defnydd amaethyddol a hamdden”.

Mae Piers Thomas hefyd yn dweud bod y cynigion yn cael gwared ar y bygythiad posib i gymunedau lleol, ac yn cynnig “datrysiad ymarferol heb unrhyw gost ychwanegol i’r Awdurdod Lleol na threthdalwyr”.

Wrth drafod y mater yn y Senedd ddechrau’r haf, fe wnaeth yr Aelod Llafur o’r Senedd dros yr ardal annog y cyhoedd i fod â meddwl agored am y cynlluniau.

“Mae angen i ni gadw meddwl agored am gyfle neu ffordd i adfer y tir, a gofyn cwestiynau amheugar yr un pryd,” meddai Hefin David.

“Nid Ffos-y-frân yw hyn, nid ei ‘adael e fel safle trychineb ac ecsbloetio’r tir’.

“Mae’r cwmni’n dweud, ‘Ie, byddwn ni’n cymryd y glo fel sgil-gynnyrch a gwneud elw, ond rydyn ni yno i adfer y tir’.