Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw ar aelodau seneddol Llafur yn San Steffan i “ddangos asgwrn cefn” wrth bleidleisio ar doriadau i Daliad Tanwydd y Gaeaf heddiw (dydd Mawrth, Medi 10).

Ac mewn llythyr at Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, mae’r elusen Age Cymru wedi mynegi “pryderon dwys” am y cynllun i dorri’r taliad i rai o’r bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas.

Nod y taliad yw helpu pensiynwyr i dalu biliau tanwydd uwch, ond byddai’r newid i’r drefn yn golygu mai dim ond y rheiny sy’n hawlio Credyd Pensiwn fyddai’n gymwys i dderbyn y taliad.

Cyn hyn, roedd taliadau o £300 ar gael i bawb dros oed pensiwn gwladol.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd 400,000 o aelwydydd yng Nghymru’n cael eu heffeithio gan y toriadau.

Cafodd y ffigurau eu datgelu gan Emma Reynolds, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, wrth iddi ymateb mewn llythyr i Ann Davies, llefarydd gwaith a phensiynau Plaid Cymru sydd hefyd yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin.

‘Cydwybod’

“Mae’r bleidlais hon yn gyfle i aelodau seneddol Cymreig ddangos asgwrn cefn,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae penderfyniad anfaddeuol y Llywodraeth Lafur i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf yn achosi perygl o greu argyfwng tlodi tanwydd ymhlith pensiynwyr yng Nghymru.

“Dylai unrhyw un â chydwybod bleidleisio yn erbyn y mesur hwn, a chadw pensiynwyr yn gynnes y gaeaf hwn.”

Pryderon Age Cymru

Yn eu llythyr agored at Brif Weinidog Cymru, dywed Age Cymru eu bod nhw’n “gweithio tuag at weledigaeth lle mae cymdeithas yn cefnogi pob person yng Nghymru i gael y profiadau gorau yn nes ymlaen yn eu bywydau”.

Dywed yr elusen ei bod hi’n bwysig fod pobol oedrannus “yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys, a’u bod nhw’n gallu siapio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau”, a’u bod nhw’n “ceisio gwella bywydau pobol hŷn drwy gyflwyno cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau mae modd ymddiried ynddyn nhw”, gan “ddefnyddio gwybodaeth, mewnwelediad a phrofiad i ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar bobol hŷn”.

Mae’r elusen yn cyfeirio at eu harolwg o 1,300 o bobol hŷn yng Nghymru, ddaeth i’r casgliad fod bron i hanner y bobol hynny wedi’i chael hi’n heriol fforddio costau byw dros y deuddeg mis diwethaf, a bod mwy na’u hanner wedi dioddef o ganlyniad i iechyd gwael.

Maen nhw’n rhybuddio y bydd y sefyllfa honno’n gwaethygu pe bai’r taliadau “hanfodol” yn cael eu torri.

Dywed yr elusen eu bod nhw’n gofidio am dair carfan o bobol yn sgil torri’r taliadau, sef:

  • y rhai sy’n colli allan ar Gredyd Pensiwn am fod eu hincwm ychydig yn rhy uchel, fel arfer gan fod ganddyn nhw bensiwn gwaith bach iawn. Mae nifer o’r rhain yn fenywod;
  • y rhai sydd angen cryn dipyn o ynni o ganlyniad i anabledd neu salwch, a/neu sy’n byw mewn tai ynni-aneffeithlon sy’n costio cryn dipyn o arian i’w cynhesu;
  • 56,100 o bobol yng Nghymru sy’n 66 oed neu’n hŷn fydd yn colli allan ar y taliadau o ganlyniad i brawf moddion, ond sy’n gymwys ond sydd ddim yn derbyn Credyd Pensiwn\

Yn ôl Age Cymru, dydy’r tri mis o rybudd cyn ceisio torri’r taliadau ddim yn ddigon, “bydd disgwyl bod gan bobol hŷn yr arian hwn yn eu pocedi eleni”, a does ganddyn nhw ddim digon o amser i feddwl am “gynllun arall”.

Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y byddan nhw’n gwneud mwy i annog pobol sy’n gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn i’w hawlio, dywed yr elusen y bydd hynny’n “cymryd amser a fydd e ddim yn atal nifer rhag colli allan eleni”.

Maen nhw’n rhybuddio hefyd y bydd gan bensiynwyr hyd at £600 yn llai o gefnogaeth gan y llywodraeth y gaeaf hwn o gymharu â’r llynedd, gan fod y taliadau costau byw dros dro gafodd eu cyflwyno bellach wedi dod i ben.

Dywed Age Cymru eu bod nhw’n cefnogi deiseb Age UK i gynnal y taliadau, ac mae dros 18,000 o bobol yng Nghymru bellach wedi llofnodi’r ddeiseb honno.

O blith y rhain, dywed:

  • 16,441 o bobol fod torri’r taliad yn eu heffeithio nhw neu eu hanwyliaid yn uniongyrchol
  • 4,207 o bobol eu bod nhw dros y trothwy o drwch blewyn er mwyn derbyn Credyd Pensiwn
  • 1,317 o bobol fod ganddyn nhw ddyletswyddau gofal, a 408 ohonyn nhw eu bod nhw dros y trothwy ar gyfer Credyd Pensiwn o drwch blewyn
  • 935 o bobol eu bod nhw dros y trothwy Credyd Pensiwn o drwch blewyn ac yn talu rhent neu forgais
  • 650 o bobol eu bod nhw ychydig dros y trothwy Credyd Pensiwn ac yn derbyn Lwfans Gweini neu PIP

Ymhlith y pryderon sydd gan y bobol hyn mae sut fyddan nhw’n gallu fforddio bwyd, gwres a dŵr poeth, ac mae Age Cymru yn gwybod am bobol â chyflwr iechyd hirdymor fydd yn gorfod torri’n ôl ar fwyd er mwyn cynhesu eu cartrefi.

Mae Age Cymru wedi annog y Prif Weinidog i glywed tystiolaeth gan bobol fregus yn uniongyrchol.

 

Annog Llafur i bleidleisio yn erbyn toriadau i daliad tanwydd y gaeaf

“Rhaid i bensiynwyr beidio â chael eu gorfodi i ddioddef yn sgil methiant economaidd San Steffan”