*RHYBUDD CYNNWYS: Gallai cynnwys yr erthygl hon beri pryder i rai*

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwasanaeth cynghori cenedlaethol ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (dydd Mawrth, Medi 10).

Pwrpas y gwasanaeth yw cynnig cymorth i bawb sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad, a darparu canllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.

Mae Sarah Murphy, Gweinidog Iechyd Meddwl Cymru, wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cymorth tosturiol ar gael i bawb sydd eu hangen.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod y rhai sydd wedi’u heffeithio yn cael cymorth amserol, tosturiol ac effeithiol lle bynnag a phryd bynnag maen nhw ei angen,” meddai.

“Drwy ddatblygu ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio a’i rhoi ar waith yn barhaus, byddwn yn ystyried beth arall allwn ni ei wneud i atal hunanladdiad yng Nghymru.”

Pam lansio’r gwasanaeth?

Daeth y penderfyniad i lansio’r gwasanaeth yn sgil data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n dangos cynnydd yn nifer y bobol oedd wedi lladd eu hunain yng Nghymru yn ystod 2023.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol arbenigol hwn am ymateb i bawb sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad, wedi’u heffeithio gan hunanladdiad, neu mewn profedigaeth wedi hunanladdiad, a marwolaethau sydyn heb esboniad allai fod yn hunanladdiad.

Bydd yn sicrhau y gall unrhyw un yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio gael cymorth sensitif a thosturiol ar unwaith.

Bydd cyswllt rheolaidd gan swyddogion cyswllt penodedig cyhyd ag y bydd ei angen, a’r opsiwn i gael gafael ar wasanaethau ehangach hefyd.

Mae’r gwasanaeth cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim ar gael i unigolion a theuluoedd dros y ffôn, wyneb yn wyneb, neu drwy alwad fideo.

Sefydliad Jac Lewis

Elusen Gymreig yw Sefydliad Jac Lewis sy’n darparu gwasanaeth yn lleol yn Rhydaman, wedi i’r gymuned leol golli unigolyn o achos i hunanladdiad.

Un o amcanion yr elusen yw ceisio lleihau’r stigma ynghylch iechyd meddwl, a datblygu diwylliant o fewn y gymdeithas lle mae’n dderbyniol i siarad am iechyd meddwl.

Mae’r elusen wedi tyfu erbyn hyn, ac mae’n darparu cwnsela a chymorth ledled Cymru i blant ac oedolion oedd heb ffordd arall o gael mynediad i’r gwasanaeth.

Mae’r elusen wedi’i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal y gwasanaeth cenedlaethol.

Dywed Liz Thomas-Evans, prif swyddog gweithredol Sefydliad Jac Lewis, eu bod nhw’n “ddiolchgar iawn am y cyfle i ddarparu’r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yng Nghymru”.

“Bydd y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod cymorth hanfodol ar gael i unigolion a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad ledled Cymru, gan weithio gyda gwasanaethau profedigaeth eraill i ddarparu’r cymorth, arweiniad ac adnoddau hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw yn ystod eu cyfnodau mwyaf anodd,” meddai.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a theuluoedd, gan helpu i feithrin Cymru sy’n fwy tosturiol a chefnogol.”

Mae’r canllawiau newydd wedi’i hanelu at ystod o asiantaethau a sefydliadau “cyswllt”, sy’n gyson yn rhan o daith pobol mewn profedigaeth yn dilyn marwolaeth sydyn neu heb esboniad.

Gall y rhain gynnwys ymatebwyr cyntaf, corffdai, swyddfeydd crwneriaid, yn ogystal ag ymarferwyr cyffredinol a thimau gofal sylfaenol, cyflogwyr a gweithleoedd.

‘Pwynt cyswllt cyntaf amhrisiadwy’

Yn ôl Sarah Murphy, gall profedigaeth ar ôl hunanladdiad fod yn “ofnadwy”.

“Mae’n hanfodol fod pawb sydd wedi’u heffeithio yn gallu cael gafael ar gymorth tosturiol pan fyddan nhw ei angen,” meddai.

“Bydd y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yn bwynt cyswllt cyntaf amhrisiadwy i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad, a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i unigolion o bob oed a theuluoedd yng Nghymru wrth iddyn nhw lywio’u ffordd drwy’r broses.

“Bydd y canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i ddeall eu rôl yn well o ran helpu pobol yn eu profedigaeth wedi hunanladdiad, neu sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad.”