Dydy hi ddim yn wir y bydd ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i leoliadau awyr agored yn cael effaith ar y diwydiant lletygarwch, yn ôl yr elusen wrth-ysmygu ASH Cymru.

Daw sylwadau Louise Elliott, Pennaeth Polisi cangen Gymreig yr elusen, yn dilyn sylwadau Emma McClarkin, Prif Weithredwr Llais Bragwyr a Thafarndai Prydain, yn honni mai “ergyd arall” gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r diwydiant fyddai cyfyngu’r hawl i ysmygu yng ngerddi tafarndai a chlybiau nos.

Roedd adroddiadau yn y wasg yr wythnos ddiwethaf fod Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gobeithio ymestyn cyfyngiadau ar ysmygu gafodd eu cyhoeddi gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf.

Mae’r gyfraith ar gyfer ysgymu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru eisoes yn fwy llym nag ydy hi yn Lloegr, ac mae’n gwahardd ysmygu ar safleoedd ysbytai, ysgolion a chaeau chwarae.

Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cyflwyno cyfyngiadau llymach eto.

“Rydyn ni’n gwybod o brofiad y byddai’r cyfyngiadau hyn yn cael effaith ddinistriol ar dafarndai sy’n ei chael hi’n anodd yn barod gyda phrisiau ynni a chostau cynnal busnes,” meddai Emma McClarkin.

Mae Llais Bragwyr a Thafarndai Prydain (LlBTP) wedi honni yn y gorffennol y byddai tair tafarn yn cau bob wythnos yng ngwledydd Prydain pe bai’r gwaharddiad ar ysmygu y tu allan i dafarndai’n cael ei gyflwyno.

‘Data ffaeledig’

Ond mae’r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ddata ffaeledig nad yw’n adlewyrchu profiadau hanesyddol o gyflwyno cyfyngiadau ysmygu, medd ASH Cymru.

Yn ôl yr elusen, mae honiadau Llais Bragwyr a Thafarndai Prydain wedi’u seilio ar ddadansoddiad o oblygiadau’r gwaharddiad ar ysmygu dan do yn 2007.

Cafodd y dadansoddiad ei wrthbrofi yn 2009 gan Mark Easton, golygydd gyda’r BBC, oedd wedi darganfod bod 4,200 yn fwy o fusnesau wedi derbyn trwydded i werthu alcohol yn y ddwy flynedd wedi’r gwaharddiad.

“Ugain mlynedd yn ôl, roedd y rheiny oedd yn gwrthwynebu gwahardd smygu y tu mewn i dafarndai’n dadlau y byddai’n niweidio’u busnesau,” meddai Louise Elliott wrth golwg360.

“Ond beth ddigwyddodd, mewn gwirionedd, pan gafodd y gwaharddiad ei gyflwyno, oedd bod tafarndai wedi dod hyd yn oed yn fwy poblogaidd.

“Yn ogystal, aeth cyfraddau ysmygu i lawr.

“Pan ofynnon ni i bobol Cymru yn holiadur blynyddol ASH 2024, roedd 64% yn cefnogi ardaloedd eistedd di-fwg mewn tafarndai, caffis a bwytai.

“Gyda’r polisi hwn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig yr hyn mae’r mwyafrif o bobol yng Nghymru wedi dweud eu bod yn dymuno’i weld eisoes.

“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnes am weld eu cwsmeriaid yn iachach am yn hirach, ac mae lleihau cyfraddau ysmygu yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hyn.”

Doedd neb o gangen Gymreig Llais Bragwyr a Thafarndai Prydain ar gael i ymateb i’w sylwadau.

Pôl piniwn golwg360: Mwyafrif helaeth o blaid ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu

Mae golwg360 wedi bod yn gofyn am eich barn yn dilyn rhyddhau manylion ynghylch cynlluniau Llywodraeth San Steffan

Pôl piniwn: A ddylid ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i fannau awyr agored?

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Bil Tybaco a Fêps, ac mae cynlluniau pellach ar y gweill yn San Steffan