Mae cais cynllunio i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i dref y Bala wedi’i gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn ôl y Cynghorydd lleol, bydd y cynllun hwn yn ffordd o “wella’r profiad i ymwelwyr” wrth iddyn nhw deithio ar hyd y rheilffordd.

Yn sgil y cynllun, mae amcangyfrif y bydd rhwng 40,000 a 60,000 yn rhagor o deithwyr yn ymweld â’r Rheilffordd, fydd yn rhoi hwb ychwanegol i’r economi wrth iddyn nhw wario’n lleol.

Ar hyn o bryd, mae’r trên stêm sy’n teithio tua phedair milltir a hanner rhwng Llanuwchllyn a’r Bala ac sy’n cael ei gynnal yn bennaf gan wirfoddolwyr, yn dod i ben tua chilomedr o’r dref.

Pe bai ymwelwyr eisiau ymweld â’r dref, felly, mae ganddyn nhw daith ychwanegol ar droed wedyn.

Bydd y cynlluniau’n golygu adeiladu 1,200m o gledrau i mewn i ganol y dref, croesfan ac adeilad newydd ar gyfer yr orsaf heb fod ymhell o gefn Neuadd Buddug.

Cafodd y cais cynllunio ei wrthod ym mis Ebrill y llynedd gan swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri, er eu bod nhw’n cytuno â’r egwyddor – yn rhannol oherwydd effaith mwy o ymwelwyr ar lefelau ffosffad Afon Ddyfrdwy.

Ond cafodd y cynllun gwerth miliynau o bunnoedd ei gymeradwyo mewn cyfarfod ddoe (dydd Mercher, Medi 4), gyda rhai amodau.

‘Diwrnod cyffrous iawn’

Wrth siarad yng nghyfarfod cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dywedodd Julian Burley, cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid, fod hwn yn “ddiwrnod cyffrous iawn”.

Yn ôl y cadeirydd, mae nifer yr ymwelwyr dros y deng mlynedd diwethaf wedi cynyddu tua 70%, ac mae’r cynllun bellach yn “gam i fuddsoddi’n lleol”.

Llwybr arfaethedig ar gyfer yr estyniad i dref y Bala

“Rhyddhad mawr a llawenydd mawr”

Ymateb cymysg o ryddhad a llawenydd sydd gan David Jones, Rheolwr y Rheilffordd.

“Yn dilyn y siom llynedd, mae’n rhyddhad mawr a llawenydd mawr yma bod y cais cynllunio wedi cael ei gymeradwyo,” meddai wrth golwg360.

Roedd yna deimlad mwy gobeithiol cyn y cyfarfod ddydd Mercher, a dywed fod hyn yn “sefyllfa wahanol iawn o gymharu â’r llynedd”.

“Yn amlwg, ryden ni wedi bod yn trafod y materion gyda’r swyddogion cynllunio yn ystod y broses, ac roedd yna deimlad fod pethau yn symud i’r cyfeiriad cywir.

“Roedd y swyddogion wedi argymell fod y cais am gael ei gymeradwyo yn eu hadroddiad, oedd yn cael ei gyhoeddi ryw wythnos ymlaen llaw.

“Felly roedd hyn yn sefyllfa hollol wahanol o gymharu â’r llynedd, lle roedden nhw wedi argymell ei wrthod.”

David Jones, Rheolwr Rheilffordd Llyn Tegid

Y tro hwn, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud yr holl waith ymchwilio ychwanegol, ond roedd y brif broblem o gyrraedd yr Ymddiriedolaeth i’w datrys, sef y broblem ffosffad yn yr Afon Ddyfrdwy.

Dywed David Jones fod yna gamau eraill i’w cwblhau cyn bod y gwaith adeiladu yn cychwyn yn y dref.

“Mae yna ychydig mwy o waith papur i’w gwblhau gan fod yna amodau ynghlwm â’r cais,” meddai.

“Bydd angen cael gorchymyn y Ddeddf Drafnidiaeth a Gweithfeydd ac, wrth gwrs, codi’r arian.”

Codi’r arian yw’r cam pwysig nesaf, a bydd angen codi swm ychwanegol rhwng £4m a £5m i wireddu’r cynllun.

Mae’n debyg na fydd y gwaith yn dechrau nes bod gwelliannau i waith trin dŵr y Bala wedi’u cwblhau, ac maen nhw wedi’u hamserlennu ar gyfer mis Mawrth 2025.

‘Gwella’r profiad i ymwelwyr’

 Wrth siarad â golwg360, dywed Dilwyn Morgan, y Cynghorydd lleol, ei fod yn “gynllun ofnadwy o bwysig i’r economi leol yn y Bala a thu hwnt”.

“Mae o hefyd yn ffordd o allu tacluso a rheoli twristiaid oherwydd, ar hyn o bryd, gan fod y trên yn darfod ychydig y tu allan i’r dref, mae yna broblemau parcio a diffyg toiledau ac adnoddau,” meddai.

“Felly, mae dod â [y rheilffordd] mewn i’r dref yn ffordd o wella’r profiad i ymwelwyr.”

Er gwaetha’r rhyddhad a’r llawenydd wrth ymestyn y llinell, mae amheuon o hyd a fydd modd i’r dref ymdopi â’r ymchwydd yn yr ymwelwyr, o gofio bod yr ardal eisoes yn boblogaidd tu hwnt.

Ond, yn ôl Dilwyn Morgan, “adnodd” yw’r cynllun hwn.

“Mae’r twristiaid yma yn barod, ac mae’r lle wedi bod yn orlawn yn ystod yr haf eleni, yn enwedig wrth y llyn,” meddai wedyn.

“Mae’r cynllun yma yn adnodd ychwanegol i geisio ymdrin ac ymdopi ag ymwelwyr.

“Dw i ddim yn gweld dim byd negyddol yn y chwyddiant mewn ymwelwyr.”

Stryd Fawr y Bala

Ychwanega David Jones fod sicrhau hwb i’r Bala yr un mor bwysig â datblygu’r rheilffordd.

“Y rheswm rydan ni’n gwneud hyn [ydy], nid yn unig i ymestyn llinell y rheilffordd sy’n hynod o boblogaidd gydag ymwelwyr, ond hefyd i sicrhau hwb i fusnesau ac economi’r dref.

“Bydd y cynllun yn datrys problemau parcio ar hyd yr heol gefn a denu pobol i’r Bala yn hytrach nag ar gyrion y dref.

“Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar fusnesau ar Stryd Fawr y Bala ac ar y bobol.”

Dyma garreg filltir hollbwysig i gynllun sydd wedi bod yn freuddwyd i nifer ers degawdau, a’r gobaith ydi y bydd modd clywed chwiban y trên yn atseinio o amgylch strydoedd y Bala yn fuan.