Mae’r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ar Hydref 7 ynghylch cynigion am Barc Cenedlaethol newydd yn y gogledd-ddwyrain.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sef cynghorydd statudol Llywodraeth Cymru ar dirwedd a harddwch naturiol, yn gwerthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd.

Amcan yr ymgynghoriad ydy asesu a yw Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd eisoes yn Dirwedd Genedlaethol, yn bodloni meini prawf megis:

  • harddwch naturiol
  • cyfleoedd hamdden awyr agored
  • arwyddocâd cenedlaethol

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan Ragfyr 16, ac yn asesu gwerth dynodi’r ardal yn Barc Cenedlaethol.

Bydd yr argymhelliad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am benderfyniad terfynol.

Mae’r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, yn ogystal â deunaw o is-lofnodwyr – gan gynnwys RSPB Cymru, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod “dyheadau uchel” ar yr ardal, fydd yn ei galluogi i fodloni’r gofynion, sef:

  • pwyslais ar bio-amrywiaeth ac adferiad rhywogaethau
  • ymrwymiad i ariannu’r ardal i’w llawn botensial
  • cefnogi cynaliadwyaeth economaidd a chymdeithasol i gymunedau lleol
  • sicrhau bod trefniadau llywodraethol wedi’u moderneiddio

‘Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth’

“Rydyn ni’n croesawu’r cynnig am Barc Cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac yn credu’i fod yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gymru gael creu Parc Cenedlaethol gwirioneddol deilwng sy’n arwain y ffordd i weddill y Deyrnas Unedig,” meddai Gareth Ludkin, Uwch Swyddog Polisi’r ymgyrch.

“Rydyn ni eisiau gweld Parc Cenedlaethol newydd sy’n medru ymdrin ag argyfyngau deuol natur a’r hinsawdd heddiw, tra’n ymgydio hefyd yn y cyfle i adeiladu cymunedau hydwyth, rheoli pwysau ymwelwyr, ac arloesi o ran iechyd a lles Cymru a’r Deyrnas Unedig.”

Mae’r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol wedi bod yn dadlau o blaid amddiffyn a gwella’r parciau cenedlaethol ers sefydlu’r parciau 75 mlynedd yn ôl.

Mae’r ymgyrch yn galw ar y cyhoedd i ymweld â’u gwefan, neu gysylltu â nhw’n uniongyrchol er mwyn dysgu am fuddiannau cael Parc Cenedlaethol newydd, neu i leddfu eu gofidion.