Syr Terry Matthews
Mae’r entrepreneur Syr Terry Matthews yn cyflwyno cais heddiw i ddigideiddio dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Mae’r cais o dan arweiniad cadeirydd bwrdd y rhanbarth yn rhoi pwyslais ar ynni, iechyd a lles a hybu’r economi drwy fanteisio ar y datblygiadau digidol diweddaraf ym Mae Abertawe.
Fe allai’r prosiect arwain at sefydlu pot o arian cyhoeddus gwerth £500 miliwn, gan ddenu rhagor o nawdd er mwyn cynnal hyd at 39,000 o swyddi yn ystod yr ugain mlynedd nesaf.
Mae’r ddinas-ranbarth yn cynnwys ardaloedd Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, lle mae oddeutu 688,000 o bobol yn byw.
Mewn datganiad, dywedodd Syr Terry Matthews mai’r bwriad yw chwarae rhan mewn “oes peiriannau digidol newydd”.
Datgelodd perchennog gwesty’r Celtic Manor ar gyrion Casnewydd ei uchelgais o weld cysylltu Abertawe’n ddigidol â rhai o ddinasoedd mawr y byd megis Llundain a Chaer Efrog.
Dywedodd y byddai’n gwneud hynny drwy wifrau ffibr-optig ar draws yr Iwerydd gan gyflymu cyswllt i’r we mewn rhai ardaloedd yng ngorllewin Cymru.
Fe fydd y cais yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Canghellor San Steffan, George Osborne.
Mae pennaeth Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole a dirprwy gadeirydd Dinas-Ranbarth Abertawe, Meryl Gravell wedi croesawu’r cyhoeddiad.