Neuadd y Ddinas Caerdydd (Llun Golwg 360)
Fydd cynghorwyr Cymru ddim yn cae cynnydd yn eu cyflogau yn ystod y flwyddyn ariannol nesa’.

Oherwydd y toriadau ar eu gwario mae’r panel sy’n gyfrifol am benderfynu ar eu tâl yn dweud nad oes modd cyfiawnhau cynnydd.

Mae hynny’n wahanol iawn i agwedd y bwrdd sy’n dyfarnu cyflogau Aelodau Cynulliad – mae hwnnw wedi argymell cynnydd o £10,000 y flwyddyn.

Maint y cyflog

Fe fydd cyflogau cynghorwyr cyffredin y aros ar £13,300 ond mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi newid ychydig ar y drefn i aelodau cabinet.

O hyn ymlaen, medden nhw, fe ddylai cynghorau amrywio’r taliadau hynny, yn dibynnu ar faint cyfrifoldebau’r aelod.

Y tâl ucha’ posib i gynghorydd yw £53,000 y flwyddyn – i arweinwyr tir o’r cynghorau mwya’.

‘Rhaid cefnogi aelodau’

Yn ei adroddiad blynyddol, roedd y Panel yn beirniadu rhai cynghorau am fethu â rhoi digon o gefnogaeth ymarferol i gynghorwyr wneud eu gwaith yn iawn.

Roedd yna anghysondeb, medden nhw, gan ddweud bod rhaid i bob cyngor sicrhau bod gan gynghorwyr offer sylfaenol, fel cyfrifiaduron, ffonau addas a chysylltiad â’r We – a hynny ar gost y cyngor.