Pauline Cafferkey (trwy law PA)
Mae swyddogion y Gwasanaeth Iechyd yn Glasgow wedi cadarnhau fod nyrs sydd â chymhlethdodau’n ymwneud â haint Ebola yn ôl yn yr ysbyty am y trydydd tro.

Roedd yn cael ei monitro’n arferol mewn Uned Clefydau Heintus, medden nhw, ond mae bellach wedi cael ei symud i’r ysbyty “ar gyfer ymchwiliadau pellach”.

Fe ddywedodd Dr Michael Jacobs o Ysbyty’r Royal Free yn Glasgow fod ei sefyllfa yn un “heb ei thebyg”.

Y cefndir

Fe gafodd Pauline Cafferkey ei heintio’n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2014, wedi iddi weithio yng nghanolfan driniaeth Achub y Plant yn nhref Kerry Town, Sierra Leone.

Fe dreuliodd fis mewn uned ynysig yn Ysbyty’r Royal Free yng ngogledd-orllewin Llundain ar ôl dychwelyd o Affrica, cyn cael ei rhyddhau a dychwelyd i Glasgow.

Fe aeth yn sâl unwaith eto fis Hydref y llynedd, ac fe gafodd driniaeth yn Ysbyty’r Royal Free am lid yr ymennydd a ddatblygodd yn sgil yr Ebola. Bu pryder wedi iddi ymweld ag ysgol yn nwyrain Kilbride ddiwrnod cyn mynd yn sâl yr eilwaith.

Fe ddywedodd Sefydliad Iechyd y Byd mai hi, hyd y gwyddan nhw, yw’r unig un o oroeswyr  Ebola i ddatblygu llid yr ymennydd ymhen ychydig fisoedd.