Camerau cylch cyfyng (Hustdvedt CCA 3.0)
Mae gan un cyngor yn Llundain fwy o gamerâu cylch cyfyng na holl gynghorau Cymru gyda’i gilydd, yn ôl arolwg diweddar.
Mae hwnnw’n dangos bod nifer y camerâu yng Nghymru wedi cwympo o 537 tros bedair blynedd a fod awdurdodau lleol yn gwario bron i £5.5 miliwn yn llai nag yr oedden nhw.
Hynny, er bod rhai’n rhybuddio y gallai’r heddlu gael trafferth wrth geisio dal troseddwyr os bydd cynghorau yn diffodd eu camerâu er mwyn arbed costau.
Dim ond 2317 o gamerâu cylch cyfyng sydd gan awdurdodau lleol Cymru o gymharu â 2900 yn ardal cyngor Hackney yn Llundain.
Ceredigion – dim camera
Un o’r cynghorau sydd wedi torri’n ôl yw Ceredigion, a benderfynodd ddiffodd ei holl gamerâu cylch cyfyng ar draws y sir, oherwydd pwysau ariannol.
Aeth y cyngor o wario £824,041.95 ar gamerâu cylch cyfyng rhwng 2007 a 2011 i £0 erbyn heddiw.
Daw’r canfyddiadau gan y grŵp ymgyrchu dros breifatrwydd, Big Brother Watch, sy’n dweud ei fod yn croesawu’r gostyngiad yng ngwario’r awdurdodau lleol yn y maes.
Roedd ei adroddiad wedi’i selio ar geisiadau rhyddid gwybodaeth a anfonwyd i awdurdodau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Y darlun yng Nghymru
Un pryder yng Nghymru oedd fod y gost fesul camera yn gymharol uchel.
Ar gyfartaledd, mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwario £9,000 am bob camera cylch cyfyng.
Yn Llundain, dim ond £4,310 yw’r gost am bob camera.
Y gwarwyr mwya’
Dyma’r cynghorau a wariodd fwya’ ar gamerâu
- Caerffili – £2.8 miliwn ar 160 camera
- Caerdydd – £2.2 miliwn ar 325 camera
- Wrecsam – £2.1 miliwn.
Rhondda Cynon Taf sydd â mwya’ o gamerâu, gyda 406 ohonyn nhw, er mai dim ond £1.6m y maen nhw’n ei wario.
Y gwarwyr lleia’
Heblaw am Geredigion, dyma’r siroedd a wariodd leiaf ar osod a chadw camerâu:
- Sir Fynwy – £223,807
- Bro Morgannwg – £293,798
- Castell-nedd Port Talbot – £341,186.
Dim ond dau awdurdod yng Nghymru oedd heb ymateb neu wedi gwrthod rhoi gwybodaeth am eu gwariant – Ynys Môn a Phowys.