Llwyfan olew segur (llun Golwg360)
Mae cymdeithas diwydiant olew a nwy gwledydd Prydain wedi galw am newid brys mewn trethi yn sgil adroddiad newydd sy’n rhybuddio fod y diwydiant “ar ymyl y dibyn.”

Mae arolwg gan Oil and Gas UK 2016, yn dangos bod llai nag erioed o’r blaen o chwilio’n digwydd am gronfeydd newydd o olew mewn dyfroedd Prydeinig ac nad oes “dim arwydd o welliant.”

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos cwymp mewn buddsoddi mewn prosiectau newydd sy’n peri pryder am ddyfodol hirdymor y diwydiant.

Yn ôl yr adroddiad fod cynhyrchiant wedi cynyddu 9.7% yn 2015, ond bod yr incwm refeniw wedi disgyn 30% rhwng 2014-2015 yn sgil gwrthdrawiad prisiau olew.

‘Angen newid’

Mae angen gostyngiad yn y trethi ar olew, ar frys ac yn barhaol, yn ôl Prif Weithredwr Oil and Gas UK, Deirdre Michie.

“Mae’r diwydiant ar hyn o bryd yn talu trethi arbennig ar gyfradd uchaf o 50% (67.5% ar gyfer meysydd sy’n talu treth refeniw petroleum).”

Mae Llywodraeth yr Alban, lle mae’r rhan fwya’ o ddiwydiant olew gwledydd Prydain, wedi cefnogi’r alwad gan ofyn am gyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth Prydain fis nesa’.

Mae Oil and Gas UK hefyd yn galw am fesurau eraill i “annog gweithredu tymor byr a buddsoddiad newydd.”

‘Gweithredu ar frys’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod yn cefnogi’r diwydiant olew a nwy “a’r miloedd o weithwyr a’r teuluoedd sy’n ei gefnogi.”.

“Ym mis Ionawr eleni, fe wnaethon ni gyhoeddi pecyn pellach o fesurau yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer cylch arall o arolygon seismig.”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban eu bod nhw’n gwneud eu gorau i gefnogi’r sector.

“Mae’n amlwg, fodd bynnag,” meddai, “fod angen i Lywodraeth Prydain weithredu ar frys i leihau’r gyfradd trethi’n sylweddol yng nghyllideb mis Mawrth gan annog mwy o archwilio.”