Mae cyflwynydd podlediad sy’n trafod anableddau ymysg pobol ifanc wedi synnu at y gymuned sydd wedi cael ei hadeiladu o’i amgylch.
Dechreuodd Cerys Davage bodlediad Unbalanced flwyddyn yn ôl, gan gyfweld â phobol sy’n byw ag anableddau neu gyflyrau iechyd.
Mae’r ddynes 22 oed, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn byw â chyflwr nychdod cyhyrol (muscular dystrophy), a dywed fod nifer fawr o bobol wedi cysylltu â hi’n dweud eu bod nhw’n gallu uniaethu efo’r podlediad.
Er mai yn Saesneg mae’r rhan fwyaf o’r penodau, mae hi wedi gwneud sawl un yn Gymraeg hefyd.
Eleni, mae categori newydd yn y British Podcast Awards, sy’n caniatáu i’r cyhoedd bleidleisio dros unrhyw bodlediad o’u dewis.
Dywed Cerys Davage fod gwrandawyr wedi bod yn dweud wrthi eu bod nhw’n pleidleisio dros y podlediad, a’i bod hi’n falch fod pobol yn ddigon hoff o’i phodlediad i’w gefnogi.
“Mae e’n gyfle gwych i gydnabod podlediadau sydd ychydig yn fwy newydd, ac mae hwn yn gam mawr i fy mhodlediad,” meddai Cerys wrth golwg360.
“A’r ffaith fod e’n cael ei gydnabod gan gymaint o bobol wahanol, a rhan fwyaf o’r bobol, dw i erioed wedi’u cwrdd o’r blaen – bod e wedi cyffwrdd nhw.
“Mae e’n dangos yr angen ar gyfer y podlediad.”
‘Adeiladu cymuned’
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae penodau wedi trafod cyflyrau megis myasthenia gravis, atal dweud ac endometriosis, ynghyd â thrafodaethau mwy cyffredinol ynglŷn â sut i fod yn gynghreiriad i bobol ag anableddau a sut beth yw byw’n annibynnol gyda chyflwr iechyd.
“Mae o wedi bod yn flwyddyn anhygoel, fyswn i ddim wedi dychmygu wrth ddechrau’r podlediad faint o sylw bydde fe’n denu a hefyd faint o gymuned fydde fe’n adeiladu,” meddai Cerys Davage.
“Ers i fi ddechrau’r podlediad, mae gymaint o bobol wedi gyrru negeseuon yn dweud eu bod nhw’n gallu uniaethu efo fi’n llwyr, dweud bod fy mhodlediad yn lleisio’n union sut dw i’n teimlo, sut mae fy mywyd bob dydd yn edrych fel ond eu bod nhw heb allu ei eirio fo eu hunain.
“Mae lot yn dweud bod e’n dod â bach o gysur iddyn nhw, sy’n insane i feddwl. Dw i wedi bod mor ffodus bod e wedi ffeindio’i ffordd i bobol sydd angen clywed rhywbeth fel hwn.
“Dyna’r rheswm pam wnes i ddechrau’r podlediad oedd does dim lot ar gael ar-lein i bobol ifanc siarad yn onest am anabledd, a dyna beth fyswn i wedi elwa ohono’n tyfu fyny.
“Nawr mae yna gymuned fach, a dw i wedi cwrdd â chymaint o bobol sydd, nid yn unig efo’r un cyflwr â fi – sy’n anghyffredin iawn beth bynnag – ond hefyd pobol efo bob math o gyflyrau gwahanol, pobol sydd efallai ddim efo anabledd ond sydd eisiau dysgu bach mwy, pobol sydd eisiau bod yn ally da i bobol sydd efo anabledd…
“Mae e’n rywbeth sydd wedi tyfu, a dw i methu aros i weld sut mae’r dyfodol yn edrych.”
Gan fod Cerys Davage yn gwahodd gwesteion i drafod efo hi ar y podlediad, mae hi wedi cwrdd â nifer o bobol eraill sydd â straeon werth eu clywed ac wedi dysgu am wahanol gyflyrau iechyd.
“Dyna fy mwriad nawr, parhau i dyfu’r podlediad, parhau i gyfweld â phobol anhygoel, a gobeithio bydd e’n cyrraedd mwy o bobol sydd efallai angen rhywbeth fel hwn yn gysur i’w bywydau nhw.
“Mae e’n ddwy ffordd, mae e’n gysur i fi bod rhywun yn gallu uniaethu â beth dw i’n ei roi allan.”
Mae Unbalanced with Cerys Davage ar gael ar y platfformau podlediadau arferol.