Mae Vaughan Gething yn dweud y bydd yn ystyried yn fanwl yr ymgyrch i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ei etholaeth yn Ne Caerdydd.

Mae rhieni yn ardal Trelluest (Grangetown) wedi bod yn ymgyrchu ers i geisiadau gwreiddiol 24 o ddisgyblion o fewn talgylch Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf gael eu gwrthod.

“Os oes galw yno, dw i’n credu bod rhaid i chi wneud dewis ymarferol ynghylch hyn,” meddai Vaughan Gething wrth golwg360 ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ar ei ddiwrnod olaf yn Brif Weinidog.

“Mae awydd i weld y capasiti ar gyfer addysg Gymraeg.

“Mae llawer o rieni fyddai’n dymuno derbyn hynny, ac mae’n rhaid i’r Cyngor allu gweithredu hynny gyda’r arian i wneud iddo ddigwydd, ac mae’n rhaid bod gennych chi’r staff i gyflwyno’r addysg hefyd.

“Felly, fe wna i gael cip agos ar yr hyn sy’n digwydd, nid dim ond gyda’r ymgyrch ond wrth drafod â’r Cyngor hefyd.”

Paratoi ar gyfer y dyfodol

Mae pob un o’r disgyblion oedd yn byw o fewn talgylch Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf bellach wedi cael eu derbyn i’r ysgol, ar ôl mynd trwy system apelio Cyngor Caerdydd.

Ond yn ôl un rhiant sy’n rhan o’r ymgyrch i sefydlu ysgol newydd, mae angen i’r Cyngor baratoi ar gyfer y dyfodol.

“Ddylai neb orfod gwneud apêl, neu frwydro er mwyn cael lle mewn ysgol uwchradd Gymraeg,” meddai Carl Morris wrth golwg360.

“Ond yn ehangach na hyn, mae yna angen i ddarparu addysg uwchradd i holl blant ardaloedd De Caerdydd – Grangetown, Tre-biwt a’r Bae.

“Mae miloedd a miloedd o deuluoedd yn byw yn yr ardaloedd hynny, ac mae angen gwneud tipyn o ymrwymiad os ydych chi eisiau anfon eich plentyn i ysgol uwchradd.

“Mae tipyn o daith, a lot o dagfeydd yn y bore.”

Mae Tre-biwt yn ardal aml-ddiwylliannol o’r ddinas a dim ond 49% o blant yr ardal gafodd gynnig lle yn eu dewis cyntaf o ysgol ym mis Medi o gymharu a 88% o ddisgyblion y ddinas ar y cyfan.

Chafodd un o bob pump plentyn ddim lle yn eu tri dewis cyntaf hyd yn oed.

Ymateb

“Yn syml, nid oes digon o ddisgyblion o fewn y system addysg cyfrwng Cymraeg i gynnal pedair ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg, ac oherwydd y gyfradd eni ddiweddar, nid oes disgwyl y bydd newid i hyn yn y dyfodol agos,” meddai Cyngor Caerdydd mewn datganiad i WalesOnline fis diwethaf.

Dywed Carl Morris y byddan nhw yn parhau i ymgyrchu, ac mae’n ffyddiog y byddan nhw yn gallu newid meddwl y Cyngor ar ôl derbyn llawer o gefnogaeth mewn llai na mis.