Mae merch 14 oed wedi gwadu ceisio llofruddio tair o bobol – dwy athrawes a disgybl – yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill.

Aeth y ferch, nad oes modd ei henwi, gerbron Llys y Goron Abertawe fore heddiw (dydd Llun, Awst 12).

Mae hi’n cyfaddef tri chyhuddiad o anafu’n fwriadol ac un arall o fod â chyllell yn ei meddiant yn yr ysgol ar Ebrill 24, pan oedd hi’n 13 oed.

Cafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a merch arall eu hanafu yn y digwyddiad.

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth y ferch sydd wedi’i chyhuddo gadarnhau ei henw a chyflwyno’i phle.

Bydd y ferch yn cael ei chadw mewn uned ddiogel i bobol ifanc tan y gwrandawiad nesaf.

Mae disgwyl i’r achos yn ei herbyn ddechrau ar Fedi 30.