Mae Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg newydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.

Daw hyn wrth i’r awdurdodau weithio tuag at y nod o ddileu’r afiechyd yn y wlad.

Daeth y cyhoeddiad am y bwrdd newydd gan Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb yn Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig.

Cafodd y Grŵp Cynghori Technegol ar TB Gwartheg ei sefydlu fis Ebrill eleni, ac mae’r cam diweddaraf sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Awst 12) yn cwblhau’r strwythur llywodraethu ar gyfer y rhaglen mae gofyn amdano yng Nghynllun Cyflawni’r Rhaglen Dileu TB, gafodd ei gyhoeddi fis Mawrth y llynedd.

‘Ymrwymiad clir i wrando ar y diwydiant’

“Mae’n bleser mawr i mi gael gwneud y cyhoeddiad hwn gan ei fod yn dangos ein hymrwymiad clir i wrando ar y diwydiant a rhoi lle canolog i gydweithio yn y Rhaglen Dileu TB Gwartheg,” meddai Huw Irranca-Davies cyn teithio i Sioe Amaethyddol Môn a Sioe Sir Benfro.

“Ers cae fy mhenodi, rwyf wedi bod yn awyddus i gwrdd â ffermwyr, milfeddygon a’r diwydiant ac wedi gwrando ar eu gofid ynghylch baich a phryderon TB.

“Mae cydnabod yr effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a’u busnesau yn flaenoriaeth.”

Bydd aelodau’r bwrdd yn cael eu cadarnhau maes o law, ond dywed Huw Irranca-Davies ei fod yn bwriadu i’r Bwrdd gynnwys ffermwyr o wahanol rannau o Gymru a phobol o gefndiroedd ffermio.

Bydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan ffermwr.

Bydd swyddogion yn cynrychioli tri sefydliad allweddol yn y diwydiant – Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a changen Cymru o Gymdeithas Filfeddygol Prydain – hefyd yn cael eu penodi.

Bydd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru ac aelodau’n cynrychioli Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cael eu penodi hefyd.

Bydd y Bwrdd yn cwrdd bob chwarter, ac rhoi cyngor strategol i’r Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Bydd blaenoriaethau cynnar y Bwrdd yn cynnwys ystyried cyngor y Grŵp Cynghori Technegol mewn perthynas â’r adolygiad chwe blynedd o dargedau dileu TB Cymru, ac archwilio sut i wella cyfathrebu ac ymgysylltu â ffermwyr a milfeddygon.

‘Y darn pwysig olaf yn y strwythur llywodraethu’

Mae NFU Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad fel “y darn pwysig olaf yn y strwythur llywodraethu”.

“Mae’n bositif gweld cynrychiolaeth gref i ffermwyr a milfeddygon o amgylch y bwrdd, gan mai teuluoedd ffermio a’u milfeddygon fferm preifat eu hunain sydd ar y rheng flaen yn ymdrin â’r afiechyd ofnadwy yma, felly mae eu safbwyntiau ar bolisi diciâu’r dyfodol yn hanfodol,” meddai’r Llywydd Aled Jones.

“Mae gan Fwrdd y Rhaglen waith eithriadol o bwysig i’w wneud wrth yrru llwybr tuag at ddileu’r afiechyd ofnadwy yma – rhywbeth mae cenedlaethau’r dyfodol o ffermwyr gwartheg yng Nghymru’n dibynnu arno.

“Yn y cyfnod o Ebrill 2023 i Fawrth 2024, cafodd dros 11,000 o wartheg eu difa oherwydd diciâu’r gwartheg yng Nghymru – ystadegyn sobor na allwn ni adael iddo barhau.

“Yn yr ystyr yma, mae NFU Cymru yn parhau i alw am strategaeth gynhwysfawr i ddileu’r afiechyd sy’n mynd i’r afael â’r afiechyd lle bynnag mae’n bodoli.

“Dair blynedd yn ôl, cafodd Grŵp Ffocws TB NFU Cymru ei sefydlu i helpu i ffurfio’n safbwyntiau ar bolisi TB ac i nodi lle gellid gwneud gwelliannau i bolisi heb roi rheoli’r afiechyd yn y fantol.

“Rydym yn barod i ddefnyddio’n sedd ar Fwrdd y Rhaglen i gyflwyno safbwyntiau ein haelodau i’r bwrdd, p’un a ydyn nhw’n safbwyntiau ffermwyr lle mae TB yn bresennol ar y fferm neu’n bygwth wrth y drws.”