Mae grŵp ieuenctid dros annibyniaeth wedi cymryd cyfrifoldeb am baentio dros fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg ar arwyddion ffyrdd ledled Sir Ddinbych.
Cafodd nifer o enwau lleoedd Saesneg ledled y sir eu targedu.
Fe wnaeth y mudiad Eryr Wen bostio lluniau o’u protest ar Instagram ddoe (dydd Sul, Awst 11), a’u disgrifio nhw fel dull newydd o amddiffyn eu cenedl er mwyn ymgyrchu dros annibyniaeth yn y pen draw.
Mae Eryr Wen yn “fudiad a chymuned sydd wedi’u chreu gan yr ieuenctid, ar gyfer yr ieuenctid”, medden nhw.
Fe wnaeth y protestwyr dargedu’r enwau Saesneg ‘St Asaph’, ‘Ruthun’ a ‘Denbigh’.
Dydy gweithredoedd Eryr Wen ddim yn digwydd heb gynsail, medden nhw, gan eu bod yn gweithredu’n debyg i ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au a’r ’70au – ymgyrch arweiniodd at ddileu enwau fel ‘Carnarvon’, ‘Portmadog, ‘Dolgelley a ‘Conway’.
Dywedodd cynrychiolydd o Eryr Wen wrth nation.cymru ei bod yn “angenrheidiol ac yn rhesymol tynnu enwau lleoedd Saesneg gorfodol oddi ar arwyddion ffyrdd yng Nghymru”.
“Fel sy’n digwydd yn aml, mae llawer o’r enwau sy’n cael eu targedu yn gwbl ddiangen a diystyr, gan eu bod nhw ond ychydig yn wahanol i’r enwau Cymraeg gwreiddiol.
“Nid yw’r enwau’n ddim mwy na phen mawr o goncwest hanesyddol Lloegr ac ymdrechion aflwyddiannus i gymathu’n orfodol yng Nghymru.
“Efallai y bydd rhai’n ceisio dadlau, oherwydd nad yw’r rhan fwyaf o Gymru’n gallu siarad yr iaith yn rhugl ar hyn o bryd, nad yw’n deg nac yn briodol dad-Saesnegeiddio’r enwau.
“Fodd bynnag, mae hyn yn nonsens llwyr.
“Does neb yn ymrafael â’r enghreifftiau sydd wedi’u crybwyll o leoedd yng Nghymru sydd eisoes wedi eu dad-Saesnegeiddio, nac ydyn?
“Mae’n bryd i Gymru adennill ei threftadaeth ieithyddol gyfoethog yn gyfan gwbl, a does dim man cychwyn symlach na thrwy adennill enwau ei threfi, pentrefi a dinasoedd yn gyntaf.”