***RHYBUDD CYNNWYS: Mae’r erthygl hon yn cynnwys disgrifiadau o achosion difrifol o arteithio***


Yr wythnos ddiwethaf, cafodd adroddiad ei gyhoeddi gan un o brif gyrff hawliau dynol Israel, B’Tselem, ar y arfer eang o gamdrin ac arteithio Palestiniaid yng ngharchardai a gwersylloedd cadw’r wlad. Mae’r adroddiad, gafodd ei gyhoeddi o dan y teitl ‘Croeso i Uffern’, yn cofnodi achosion o ymosodiadau corfforol difrifol, llwgu bwriadol, atal triniaeth feddygol, camdrin seicolegol a thrais rhywiol. Mae teitl yr adroddiad yn cyfeirio at eiriad arwydd mewn Arabeg a Hebraeg gafodd ei osod wrth fynedfa un adain o wersyll cadw Ketziot.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth 55 o gyn-garcharorion o’r modd y cawson nhw eu trin o fewn y system garcharu. Mae’r dioddefywr yn sôn sut y bydden nhw’n cael eu curo mor giaidd fel bod eu hesgyrn a’u hasennau’n cael eu torri; collodd un cerddor ei glyw mewn un glust oherwydd ergydion i’w ben; dioddefodd sawl un ergydion i’w rhannau preifat gyda phastynnau a gwrthrychau eraill a dioddefodd rhai drais rhywiol difrifol gyda gwrthrychau caled yn cael eu gwthio i fyny’u penolau. Bu’n rhaid torri coes un carcharor i ffwrdd ar ôl iddo gael ei guro gan fod awdurdodau’r carchar wedi gwrthod rhoi unrhyw gymorth meddygol iddo i drin ei glwyfau.

Mae adroddiad B’Tselem yn bwysig iawn o ran rhannu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng ngarchardai a gwersylloedd cadw Israel oherwydd, ers Mis Hydref, yn groes i gonfensiwn Genefa, mae Israel wedi rhwystro cynrychiolwyr y Groes Goch Ryngwladol rhag ymweld â charcharorion Palesteinaidd sy’n cael eu cadw ganddi.

Ar hyn o bryd, mae tua 9,000 o Balestiniaid yn cael eu cadw mewn carchardai neu wersylloedd Israelaidd gyda 3,500 ohonyn nhw fel ‘carcharorion gweinyddol’ sydd heb eu cyhuddo o unrhyw drosedd a 1,500 fel ‘ymladdwyr anghyfreithlon’, sy’n golygu bod modd eu cadw dan glo am gyfnodau hirfaith heb yr hawl i gael cymorth cyfreithiol. Ers mis Hydref y llynedd, mae o leiaf 60 o Balestiniaid wedi marw yn rhai o ganolfannau cadw Israel.

Mae’r gwasaneth carchardai yn Israel yn atebol i’r Gweinidog Diogewlch Cenedlaethol asgell dde eithafol (iawn) Itamar Ben Gvir, a fo, yn anad neb, sy’n gyfrifol am waethygu’r diwylliant o gamdrin sydd wedi bod yn nodwedd amlwg o’r system garcharu Israelaidd ers blynyddoedd.  Ym Mis Hydref, gorchmynnodd Ben Gvir i swyddogion y carchardai leihau yn sylweddol faint o fwyd gaiff ei roi i garcharorion gan esgor ar gyhuddiadau gan fudiadau hawliau dynol Israel fod ei adran yn gweithredu polisi o lwgu bwriadol. Mae Ben Gvir mor eithafol fel ei fod hyd yn oed wedi’i feirniadau’n hallt gan yr Unol Daleithiau am ei rethreg ymfflamychol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae o wedi awdurdodi prynu dryllau ar gyfer yr ymsefydlwyr hynny yn y Lan Orllewinol sy’n ymosod ar y Palestiniaid sy’n byw yno a dwyn eu cartrefi. Gan mai fo sy’n gyfrifol hefyd am heddlua’r Lan Orllewinol, dydy ymsefydlwyr sy’n lladd Palestiniaid bron byth yn cael eu herlyn.

Amddiffyn yr Arteithwyr

Cafodd adroddiad B’Tselem ei gyhoeddi bythefnos ar ôl i achos unigol, eithriadol o ddifrifol, o arteithio gyrraedd y newyddion. Cafodd heddwas oedd yn gweithio i adran wrth-gyffuriau llywodraeth Gaza (sydd o dan reolaeth Hamas) ei arestio a’i gamdrin i’r fath raddau gan filwyr Israelaidd yng ngwersyll cadw Sde Teiman, fel y bu’n rhaid iddo dderbyn triniaeth feddygol arbenigol. Pan ddechreuodd un o’r meddygon, Yr Athro Yoel Donchin, drin y claf gafodd ei arswydo gan natur yr anafiadau yr oedd wedi’i ddioddef.  Yn ogystal â thorri ei asennau a niweidio’i ysgyfaint, roedd milwyr wedi ymosod yn rhywiol arno ac wedi achosi anafiadau mewnol dychrynllyd trwy wthio gwrthrych caled yr holl ffordd i fyny i’w goluddyn. Cwynodd y meddyg yn swyddogol i’r awdurdodau a daeth yr achos i sylw cyhoeddus.

“Os yw’r wladwriaeth ac aelodau o’r Knesset yn meddwl nad oes terfyn ar faint y medrwch chi gamdrin carcharorion” meddai’r Athro Donchin “dylen nhw eu lladd nw eu hunain, fel y gwnaeth y Natsïaid, neu gau’r ysbytai….Os ydyn nhw’n cadw ysbytai dim ond er mwyn amddiffyn eu hunain yn Yr Hague (h.y. Y Llys Troseddau Rhyngwaldol) dydy hynny’n werth dim byd.”

Mae sylwadau’r Athro Donchin yn adleisio rhai a wnaed yn breifat gan bennaeth gwasanaeth cudd Israel y Shin Bet, Ronen Bar, mewn llythyr (gafodd ei ollwng i’r wasg yn ddiweddarach) at swyddogion carchardai. Yn y llythyr, mae’n datgan y gallai Israel wynebu honiadau digon dilys yn un o’r llysoedd rhyngwladol yn yr Hâg o gyflawni’r drosedd ryfel o driniaeth annynnol a thorri’r confensiwn yn erbyn arteithio.

Oherwydd bod y gŵyn a wnaed gan yr Athro Donchin wedi cyrraedd y cyfryngau, ac felly’n anodd ei hanwybyddu, penderfynodd y fyddin fod rhaid gwneud sioe o ymchwilio i’r honiadau ac aeth nifer o heddlu milwrol i wersyll Sde Teiman i arestio naw o filwyr (oedd yn cynnwys uwch-gapten) er mwyn eu holi am y digwyddiad. Wrth iddyn nhw geisio arestio’r milwyr, fodd bynnag, ymosododd torf asgell dde ar y gwersyll, gan dorri trwy’r ffens yno, er mwyn cefnogi’r milwyr a datgan bod arteithio Palestiniaid yn weithred dderbyniol. Ymhlith y dorf roedd aelodau o’r Knesset gan gynnwys gweinidog yn y llywodraeth. Aeth protestwyr asgell dde hefyd i’r gwrandawiad llys cychwynnol er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r milwyr gafodd eu harestio.

Ers y digwyddiad, mae llawer o leisiau asgell dde yn Israel wedi bod yn dadlau yn gyhoeddus ei bod hi’n gwbl dderbyniol i filwyr Israel arteithio Palestiniaid, a bod hyd yn oed ystyried erlyn milwyr yn weithred fradwrus.

Mae’n deg nodi nad Israel ydy’r unig wladwriaeth sy’n gwneud defnydd eang, systemig o arteithio o fewn ei charchardai. Yn anffodus, mae nifer o wledydd ar draws y byd yn euog o’r drosedd honno. Ond gellid dadlau, petai cynghrair o wladwriaethau gormesol, gorthrymus yn cael ei chreu, y byddai Israel yn sicr yn rhan o’r Uwch Gynghrair, efallai yn ddigon agos at y brig. Mae’r farn hono’n cael ei hadlewyrchu gan y ffaith fod dau gorff bellach wedi newid eu diffiniad o weithredoedd Israel yn Gaza. Tan yr wythnos ddiwethaf, roedd y corff Prydeinig Jews For Justice For Palestinians yn disgrifio gweithredoedd Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel. Bellach, yn dilyn asesu barn 16 o arbenigwyr rhyngwladol yn y maes a nifer o ddatganiadau cyfreithiol gan gyrff megis yr ICC a’r ICJ, mae wedi cyhoeddi ei fod bellach yn derbyn y diffiniad o hil-laddiad fel disgrifiad cywir o weithredoedd Israel. Yn ddiweddar iawn hefyd, penderfynodd Wikipedia, ar sail cyngor gan arbenigwyr, fabwysiadu’r term hil-laddiad ar gyfer erthygl sy’n trafod yr hyn mae Israel yn ceisio’i gyflawni yn Gaza.