Glyn Davies, un o'r Aelodau Seneddol sydd yn ddim yn siŵr pa ffordd fydd e'n pleidleisio eto
Dyw dau o ASau Ceidwadol Cymru dal heb benderfynu eto sut fyddan nhw’n pleidleisio yn y refferendwm i benderfynu a fydd Prydain yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Alun Cairns a Glyn Davies yw’r ddau Aelod Seneddol sydd dal heb ddatgan eu barn eto, ac fe ddywedodd llefarydd ar ran AS Sir Drefaldwyn ei fod “eisiau ymgynghori â’i etholaeth yn gyntaf”.

Serch hynny, mae pedwar o ASau Cymru wedi dweud y byddan nhw’n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda phump o’r Torïaid o blaid aros.

Dywedodd AS Dyffryn Clwyd James Davies heddiw ei bod hi’n bryd “symud ymlaen” o’r Undeb Ewropeaidd, tra bod David Jones, Chris Davies a David Davies hefyd wedi dweud eu bod nhw eisiau gadael.

Mae Maer Llundain Boris Johnson hefyd wedi dweud ei fod am ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd, er bod David Cameron wedi sicrhau diwygiadau.

‘Hollbwysig i swyddi’

Ar y llaw arall, mae pump o ASau Cymru wedi dweud eu bod nhw am i Brydain aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd – Stephen Crabb, Guto Bebb, Byron Davies, Simon Hart a Craig Williams.

“Mae’n hollbwysig i swyddi’r DU ein bod yn parhau yn y Farchnad Sengl fel y gallwn fasnachu’n rhydd,” meddai Stephen Crabb gan ddweud nad yw’r “realistig” disgwyl mynediad at y Farchnad Sengl heb “arwyddo cyfres o reolau’r UE”.

“Mae’r cytundeb a wnaed gan y Cyngor Ewropeaidd ddydd Gwener ddiwethaf am ddiwygiadau yn gwella ein haelodaeth yn fwy fyth,” meddai gan gyfeirio fod amodau’r DU eisoes yn wahanol o ran yr ewro a rheolaeth ffiniau.

“Dw i’n credu bod achos cryf ac ymarferol i Brydain aros o fewn yr UE gydag ein haelodaeth ddiwygiedig.

“Mae problemau am y ffordd y mae’r UE yn gweithredu yn parhau a bydd rhaid inni wthio amdanyn nhw, ond mewn cydbwysedd, pleidlais i aros yw’r peth iawn i’w wneud.”