Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o egwyddorion a fydd yn llunio “ffordd Gymreig” newydd o weithio ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, pwrpas yr egwyddorion yw creu “gwirioneddau sylfaenol” ar gyfer y gwasanaeth fydd dod yn rhan “annatod” o’r system iechyd yng Nghymru.
Cafodd yr egwyddorion eu llunio ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd ac undebau llafur, gan nodi’r ffordd y dylai’r staff weithio o fewn y system.
Mae pwyslais ar les pobol a gofal iechyd ataliol, a fydd yn canolbwyntio mwy ar atal salwch yn hytrach na’i wella, er mwyn lleihau nifer y bobol sy’n gorfod mynd at y doctor neu’r ysbyty.
Chwe egwyddor
Dyma’r chwe egwyddor newydd sydd wedi cael eu gosod:
*Rydym yn rhoi ein cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau yn gyntaf
*Rydym yn ceisio gwella’n gofal
*Rydym yn canolbwyntio ar lesiant ac atal
*Rydym yn ystyried ein profiadau ac yn dysgu oddi wrthynt
*Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ac fel tîm
*Rydym yn gwerthfawrogi pawb sy’n gweithio i’r GIG
“Annatod” i’r Gwasanaeth Iechyd
“Rwy’n falch iawn o lansio’r Egwyddorion Craidd ar gyfer GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) Cymru,” meddai Mark Drakeford.
“Rwy’n gobeithio ei bod yn glir i bawb mai dyma’r gwirioneddau sylfaenol y mae pawb yn dymuno gweld ein gwasanaeth iechyd yn eu datblygu. Rwy’n benderfynol y bydd yr egwyddorion hyn yn dod yn rhan annatod o’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn GIG Cymru.”
Yn ôl Cyfarwyddwr Cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Richard Tompkins, pwrpas yr egwyddorion newydd yw “datblygu diwylliant yn y gweithle sy’n seiliedig ar werthoedd ac ymddygiadau cyffredin.”
“Byddan nhw’n helpu i wella cyfathrebu rhwng cydweithwyr, yn ogystal â sicrhau bod polisïau cyflogaeth gwell yn cael eu datblygu a bod sefyllfaoedd a allai godi yn y gweithle yn cael ymateb prydlon,” meddai.
“Rhain fydd y prif egwyddorion ar gyfer penderfynu sut fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd ar draws y gwasanaeth iechyd a byddan nhw’n sylfaen ar gyfer sefydliadau wrth iddyn nhw ddatblygu eu fframweithiau eu hunain.”