Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi hysbysebu am ragor o brentisiaid a graddedigion.
Dywedodd y cwmni eu bod yn cynnig cyfleoedd gwaith i bump o raddedigion a hyd at 12 o brentisiaid, ac y byddai mwy o gyfleodd yn dod i law pan fyddai gwaith datblygu, adeiladu a gweithredu’r orsaf niwclear yn bwrw yn ei flaen.
Yn ddiweddar fe gafodd y cwmni ganiatâd i dreblu maint ei swyddfa ar y safle arfaethedig ger Cemaes, er mwyn gallu dal hyd at 80 o staff.
Ond mae ymgyrchwyr sydd yn gwrthwynebu’r datblygiad wedi codi pryderon newydd ynglŷn â’r sicrwydd y bydd Hitachi yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu’r atomfa newydd.
‘Un o brosiectau ynni mwyaf Ewrop’
Dywedodd Horizon y byddai’r lleoliadau gwaith newydd yn cael eu rhedeg ar y cyd â Choleg Menai, ac y byddai’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu gwaith ym mis Medi.
“Rhaid cael pobol ddawnus i ymuno â’r diwydiant niwclear a bod yn rhan o Wylfa Newydd,” meddai Greg Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Horizon.
“Mae’r rhain yn swyddi da ar gyfer pobol sydd â’r cymhelliant a’r sgiliau cywir. Mae darpar weithwyr Wylfa Newydd yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol ar hyn o bryd, ac rydym am roi cyfle i bobol ifanc – a’r rheini sy’n awyddus i ailhyfforddi – i chwarae rhan yn un o brosiectau ynni mwyaf Ewrop.”
Dywedodd Horizon y byddai’r swyddi ar gyfer y graddedigion yn gweddu fwyaf i fyfyrwyr cyrsiau fel peirianneg, ffiseg, cemeg a chyrsiau amgylcheddol.