Gwynfor Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Daeth y bardd lleol o Donyrefail i’r brig am ei “gasgliad ffraeth a ffyrnig, mydryddol a meistrolgar”.

Mae’r Goron yn cael ei chyflwyno am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Atgof’.

Fe ddenodd y gystadleuaeth 33 o geisiadau.

Cafodd y pwnc ei ddewis gan Bwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod i nodi canrif union ers i Prosser Rhys ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl am bryddest ar yr un pwnc, yn sôn am ei berthynas rywiol gyda dyn arall, pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon.

Mererid Hopwood yn ysbrydoli’r bardd ifanc

Cafodd Gwynfor Dafydd ei eni a’i fagu yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Ei fam yw Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol.

Aeth Gwynfor i ddwy o’r ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Llanhari.

Yn yr ysgol uwchradd y dechreuodd Gwynfor farddoni, yn y mesur caeth i ddechrau, yn sgil ymweliad gan Mererid Hopwood â’r ysgol, lle cafodd y gynghanedd ei chyflwyno iddo am y tro cyntaf.

Aeth ati i ennill Cadair yr Urdd pan oedd yn dal i fod yn ddisgybl yn Llanhari yn 2016, ac yna am yr eildro ym Mhen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elái yn 2017.

Gwynfor hefyd oedd awdur y Cywydd Croeso y flwyddyn honno.

Yn y seremoni heddiw, roedd diolch i “athrawes arbennig”, Catrin Rowlands o Ysgol Llanhari.

Yn ddiweddarach, fe aeth i Brifysgol Caergrawnt i astudio llenyddiaeth Almaeneg a Sbaeneg, ac fe dreuliodd flwyddyn yn gweithio i’r Siambr Fasnach Brydeinig yn Chile.

Ar ôl graddio o’r brifysgol yn ystod y cyfnod clo, fe symudodd yn ôl i Donyrefail i fyw am dair blynedd, cyn symud i Lundain, lle mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwr i’r BBC ar y News at Six a’r 10 O’Clock News.

Mae Gwynfor yn aelod o dîm Morgannwg yn yr Ymryson, a thîm Tir Iarll ar gyfres radio Y Talwrn.

Mae wedi ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts ddwywaith am gerdd rydd orau’r gyfres.

‘Hanes y cymoedd yn gymhleth gyfoethog’

Y beirniaid eleni oedd Guto Dafydd, Elinor Gwynn a Tudur Dylan Jones.

“Mae Samsa’n cyflwyno dilyniant sy’n digwydd gweddu’n berffaith i fro’r Eisteddfod eleni, am mai yn ei thir a’i daear hi y mae ei wreiddiau. Llwydda i ennyn ystod o emosiynau ynom, o dristwch gwragedd Senghennydd, i gomedi’r sylw a roddir i Guto Nyth Brân. Mae ganddo berthynas bell ac agos gyda’i ardal a chyda’i thrigolion. Mae’n teimlo’n un â’r gymdeithas, ac eto fymryn ar wahân..”, meddai Tudur Dylan Jones, wrth draddodi o’r llwyfan.

“Temtasiwn mawr yw dyfynnu’n helaeth o’r cerddi i ddangos dawn a chrefft Samsa, ond ofer fyddai hynny am ddau reswm.

“Yn gyntaf, mae’r cyfanwaith a’r gwead mor dynn, byddai ynysu dyfyniadau yn llesteirio eu hystyr, ac yn ail, mae cyfle yn y gyfrol hon i’r darllenydd ddarllen y cyfan yn eu cyd-destun godidog.

“Mae hanes y cymoedd yn gymhleth gyfoethog, ac adleisir y cyfoeth a’r cymhlethdod yn ymateb y bardd i’r ardal a’i phobol.

“Nid moliant unllygeidiog sydd yma – yn hytrach, ei dweud hi fel y mae, yn ddi-flewyn-ar-dafod o onest.”

‘Ffraeth a ffyrnig’

Yn ei feirniadaeth, dywedodd Guto Dafydd: “Dyma gasgliad ffraeth a ffyrnig, mydryddol a meistrolgar, sy’n archwilio’n gariadus-gritigol berthynas y bardd â’r cymoedd a gyflwynodd ei dad-cu iddo’n blentyn, gan bwysleisio’r cyffredinedd egr yn ogystal â’r rhamant a’r anrhydedd: ‘â’i alaw broletaraidd-browd, chwyldroi/ diflastod pentre’n lle llawn chwedlau coeth’.

“Cyfleodd anferthedd cymhlethdod ei berthynas ei hun â’i gynefin, gan ad-dalu’r ddyled oedd arno i’w dad-cu.

“Gwnaeth gyfraniad glew, gonest, amlweddog at lenyddiaeth y cymoedd a llenyddiaeth hoyw, ac at ymdrech barhaus y diwylliant Cymraeg i ddygymod â dad-ddiwydiannu a rhoi llais i hunaniaethau a dangynrychiolir.

“Mae’n olynydd gwiw i Ben Davies a Prosser Rhys.”

Mae Elinor Gwynn hefyd yn croesawu geiriau Samsa yn ei beirniadaeth, a dywedodd: “Gan Samsa cawn gerddi sy’n plethu hiwmor a dwyster, y presennol a’r gorffennol, a sylwebaeth grafog gyda myfyrdodau teimladwy am ei hunaniaeth ei hun.

“Mewn ffordd wreiddiol a gafaelgar mae’n cynnig cipolwg ar y profiadau, y straeon a’r mythau sy’n creu ein lleoedd ac yn siapio ein perthynas â nhw.”

Mae’r Goron a’r wobr ariannol o £750 yn cael ei noddi gan Ysgol Garth Olwg yn ardal Pontypridd.

Cafodd y Goron ei chynllunio a’i chynhyrchu gan Elan Rhys Rowlands o gwmni Neil Rayment, Bae Caerdydd, gyda chefnogaeth a chymorth Neil Rayment ei hun.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mhontypridd tan Awst 10.

Caru’r Cymoedd: Helen Prosser

Aneurin Davies

Yn y darn cyntaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod, Helen Prosser, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fu’n siarad â golwg360

Caru’r Cymoedd: Catrin Rowlands

Aneurin Davies

Bydd yr athrawes Gymraeg yn cael ei hanrhydeddu gan yr Orsedd ym Mhontypridd yr wythnos hon