A yw deallusrwydd artiffisial yn freuddwyd neu’n hunllef i weithwyr?

Dyna’r pwnc fydd yn cael sylw yn nigwyddiad TUC Cymru ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd yr wythnos hon.

Daw hyn wrth i’r Eisteddfod ychwanegu rheol newydd at y Rhestr Testunau ar gyfer 2025 sy’n gwahardd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.

Mae ymchwil wedi datgelu bod gweithwyr yn cael eu gwylio a’u rheoli gan ddeallusrwydd artiffisial wrth iddyn nhw weithio, a’i fod yn bygwth disodli gweithwyr yn gyfangwbl.

Bydd y digwyddiad ym Mhabell y Cymdeithasau am 3.30yp (dydd Mawrth, Awst 6) yn trafod ar ffurf panel sut ddylai’r llywodraeth a chyflogwyr fynd ati i drafod cyflwyno deallusrwydd artiffisial gyda’u gweithwyr, fel bod modd creu’r sefyllfa orau bosib i bawb.

Y panel

Bydd yr awdur Manon Eames yn canolbwyntio ar effaith deallusrwydd artiffisial ar awduron, wrth i nifer boeni am golli gwaith ac arian.

Monitro’r gweithlu’n barhaus fydd prif ffocws Cate Correia Hopkins o’r Data Justice Lab, wrth iddi ystyried effaith negyddol gwyliadwraeth barhaus ar weithwyr.

Bydd Ceri Williams o TUC Cymru yn edrych ar effaith deallusrwydd artiffisial ar weithwyr yng Nghymru, gydag adroddiad yn dangos bod gweithwyr eisoes dan fygythiad.

Clywson nhw gan weithwyr fod:

  • gweithwyr mewn swyddfeydd yn cael eu monitro ac yn derbyn amserlenni gwaith didrugaredd o ganlyniad i ddeallusrwydd artiffisial
  • deallusrwydd artiffisial yn rheoli gyrwyr a gweithwyr sy’n cludo a dosbarthu nwyddau, ac maen nhw’n wynebu colli eu swyddi am fethu targedau afrealistig sy’n cael eu pennu gan beiriant
  • pobol creadigol yn poeni y bydd peiriannau yn dwyn eu gwaith er mwyn creu erthyglau, sgriptiau a fideos newydd
  • gweithwyr yn y sector ynni’n wynebu colli eu swyddi yn sgil penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan beiriant

‘Ddylai neb golli eu swyddi oherwydd deallusrwydd artiffisial’

“Ddylai neb golli eu swyddi oherwydd deallusrwydd artiffisial,” meddai Ceri Williams o TUC Cymru.

“Dyna pam fod undebau’n ymateb mewn ffordd effeithiol i dwf deallusrwydd artiffisial.

“Maen nhw’n arwain wrth warchod gweithwyr yn erbyn bygythiadau deallusrwydd artiffisial, ac yn ceisio gwireddu ei bosibiliadau er lles gweithwyr.

“Mae undebau’n addasu technegau traddodiadol er mwyn cael y fargen orau i’w gweithwyr.

“Ond mae angen gwneud mwy.

“Mae undebau mewn trafodaethau â chyflogwyr cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ynghylch canllawiau ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.

“Rydyn ni eisiau gweld gwell gwarchodaeth gyfreithiol i weithwyr mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial.

“Mae’r TUC wedi cyhoeddi Bil Deallusrwydd Artiffisial (Rheoleiddio a Hawliau Cyflogaeth), fyddai’n cryfhau hawliau gweithwyr pan gaiff systemau deallusrwydd artiffisial eu cyflwyno.”