Mae Gorsedd Cymru’n cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Awst 6), a byddan nhw’n trafod a ddylid diarddel Huw Edwards.

Yr wythnos ddiwethaf yn Llys Ynadon Westminster, fe gyfaddefodd y darlledwr iddo dderbyn delweddau anweddus o blant.

Cafodd ei gyhuddo o fod â chwe delwedd Categori A, deuddeg delwedd Categori B, a 19 delwedd Categori C ar WhatsApp.

Fe blediodd yn euog i’r holl gyhuddiadau.

Dywedodd Christine James wrth y BBC nad oes gan yr Orsedd “drefn neu beirianwaith penodol i ddiarddel aelodau”.

Cafodd Huw Edwards ei urddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2022.

Mae Prifysgolion Bangor a Chaerdydd wedi dweud eu bod nhw’n adolygu’r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd gafodd ei chyflwyno ganddyn nhw i Huw Edwards.

Hefyd, mae’r murlun ohono yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin wedi’i ddileu gan yr artist oedd wedi ei greu.

“Mae proses wedi cychwyn ac nid yw’r briodol i Orsedd Cymru wneud unrhyw sylw pellach tan i’r broses ddod i derfyn,” meddai’r Orsedd mewn datganiad.

Pen ac ysgwydd Huw Edwards yn edrych tua'r dde

Huw Edwards yn pledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant

Mae’r cyn-gyflwynydd newyddion wedi pleidio’n euog i dri chyhuddiad mewn gwrandawiad byr yn Llundain heddiw (Gorffennaf 31)