Cafodd mudiad newydd fydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru ei lansio yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Cafodd y mudiad ei lansio o flaen ystafell lawn yn yr Hen Lyfrgell yn yr Aes.
Bwriad Yes Cymru yw cynyddu cefnogaeth dros Gymru annibynnol drwy weithredu gwleidyddol a threfnu digwyddiadau fel y gwelir yn yr Alban a Chatalwnia.
Y prif siaradwyr yn y lansiad oedd Liz Castro, un o drigolion Catalwnia sy’n awdur ac yn aelod o bwyllgor gwaith mudiad ANC; a Shona McAlpine, fu’n allweddol wrth sefydlu nifer o fudiadau annibyniaeth yn yr Alban; a chyn-gadeirydd Plaid Cymru, John Dixon.
Dywedodd John Dixon: “Mae gormod o bobl yng Nghymru wedi mynd yn rhy gyfforddus yn osgoi’r cwestiwn, a cheisio ei wthio i ffwrdd cyn belled ag y bo modd i’r dyfodol.
“Nid yw’r achos dros i Gymru gymryd cyfrifoldeb llawn am ei dyfodol ei hun wedi ei roi am gyfnod rhy hir… Mae’n hen bryd i ni ei roi gerbron pobl Cymru.”
‘Cymru’n mynd yn gymharol dlotach’
Dywedodd Iestyn ap Rhobert ar ran YesCymru: “Pob cenhedlaeth dywedir fod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol, ac eto gyda phob cenhedlaeth dan reolaeth San Steffan, mae Cymru’n mynd yn gymharol dlotach. Rydym yn annog pobl Cymru i fod yn uchelgeisiol dros Gymru. Os yw annibyniaeth yn ddigon da i Iwerddon neu Ddenmarc, mae’n ddigon da i Gymru.
“Fel y sawl sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth Catalonia, Corsica, yr Alban a llawer o wledydd eraill, rydym yn cydnabod nad yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni dros nos.
“Rhwng 2009 a 2011, roedd y gefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban yn gyson ar tua 25% yn ôl yr arolygon barn, erbyn heddiw mae o gwmpas 50%.
“Ni fu erioed ymgyrch dros annibyniaeth yng Nghymru; nid yw’r achos erioed wedi cael ei wneud. Ein bwriad yw cywiro hynny.”
Yn ystod y lansiad, roedd adloniant gan y gantores boblogaidd Caryl Parry Jones, a chyflwyniad o lyfryn newydd ar ffurf y ‘Wee Blue Book’ oedd mor ddylanwadol yn ystod ymgyrch annibyniaeth yr Alban.