Mae’n well gan 50% o’r bobl sy’n byw yng Nghaerdydd gadw mewn cysylltiad â ffrindiau yn ddigidol yn hytrach na’u cyfarfod wyneb yn wyneb, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ogystal, cyfaddefodd 50% na fydden nhw’n aros mewn cysylltiad gyda rhai ffrindiau o gwbl oni bai am gyfryngau cymdeithasol. Dywedodd 33% eu bod yn credu fod cyfryngau cymdeithasol wedi cryfhau cyfeillgarwch.

Dinas ddigidol

Dangosa’r ymchwil fod pob person yng Nghaerdydd yn anfon 15,330 o negeseuon testun bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ynghyd â 1,820 o negeseuon llun a 3,285 negeseuon WhatsApp.

Mae 89% o bob Caerdydd yn defnyddio Facebook i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, 70% yn defnyddio e-bost a 67% yn defnyddio negeseuon testun.

‘Anifeiliaid cymdeithasol’

Gwnaethpwyd yr ymchwil gan y  seicolegydd Dr Peter Collett i  BT Mobile.

“Mae natur wedi  gwneud pobl yn anifeiliaid cymdeithasol,” meddai.

“O ystyried bod cymaint o’n mwynhad yn gysylltiedig â phobl eraill, nid yw’n syndod ein bod yn buddsoddi cymaint o amser ac ymdrech i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau. Mae dulliau digidol newydd o gyfathrebu wedi ei gwneud hi hyd yn oed yn haws i ni fynegi ein gwir natur.”