Y Wylfa wreiddiol
Mae cwmni Pŵer Niwclear Horizon wedi cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Ynys Môn i ehangu ei swyddfa ar safle bosib atomfa niwclear Wylfa Newydd.

Bydd estyniad gwerth miliwn o bunnoedd yn cael ei adeiladu er mwyn “cartrefu gweithlu Horizon sy’n tyfu ar yr Ynys”.

Bydd yr estyniad yn gallu cynnal hyd at 80 o staff ar y safle, meddai rheolwr Wylfa Newydd, gan ychwanegu y bydd y swyddfa newydd yn barod erbyn yr haf.

“Mae’r gwaith ar safle Wylfa Newydd yn cynyddu yn sylweddol,” meddai Daron Hodges, “felly mae’r prosiect yma i ehangu’r swyddfa yn amserol iawn, gan greu’r gallu i gynnal hyd at 80 o staff ar y safle, sydd yn ychwanegol i’r 100 a mwy o gontractwyr sydd yn gweithio yma gan amlaf ar y safle,” meddai.

Bygwth tynnu allan

Ar ddiwedd mis Ionawr, fe wnaeth pennaeth cwmni Hitachi rybuddio y gallai dynnu allan o brosiect Wylfa Newydd oni bai bod modd dod i gytundeb ariannol gyda Llywodraeth Prydain.

Dydy’r trafodaethau rhwng y cwmni mawr o Siapan a’r llywodraeth heb ddechrau eto ac ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan 2019.

Er hyn, dywedodd cwmni Horizon, a gafodd ei brynu gan Hitachi yn 2012, ei fod yn hyderus y bydd Wylfa Newydd yn cael sêl bendith yn y pendraw.

“O ran Horizon, yn sicr dydyn ni heb gael unrhyw fath o orchymyn [gan Hitachi] i arafu’r gwaith o baratoi a gwneud y cynlluniau manwl, terfynol ar gyfer Wylfa Newydd,” meddai Richard Foxhall, Rheolwr Cysylltiadau Rhanddeiliaid Horizon.

“Mae’r buddsoddiad o filiwn o bunnoedd i ehangu ein swyddfa ar Ynys Môn yn arwydd ein bod ni’n cynllunio ar gyfer llwyddiant y prosiect.”