Yn dilyn tân mawr dros nos ar safle gwaith glanhau dillad gwely a llieiniau bwrdd yng Nghyffordd Llandudno, mae perchennog cwmni arall gerllaw wedi dweud wrth golwg360 nad dyma’r tro cyntaf i dân gydio ar y safle.

Yn ôl Jeff Shotter, perchennog Abbey Removals, sydd wedi’i leoli y tu ôl i safle Express Linen Services, bu tân yn yr adeilad rhyw ddeng mlynedd yn ôl a oedd wedi’i achosi, roedd e’n meddwl, gan foeler oedd wedi gorboethi.

Ond pan ofynnwyd i bencadlys y cwmni yn Blackpool, doedden nhw ddim yn ymwybodol o unrhyw dân yn y gorffennol.

‘Difetha’ busnes

Dywedodd Jeff Shotter hefyd fod y busnes, sydd wedi bod yno ers 15 mlynedd, wedi “difetha” yn dilyn y tân ac mae’n amau a fydd modd i’r cwmni ail-agor ei safle yn y dref.

“Byddan nhw ddim yn agor eto, mae’r to yn hongian i ffwrdd,” meddai Jeff Shotter.

Yn ôl y pencadlys, mae’n rhy gynnar i ddweud os byddan nhw’n ail-agor eto ond cafwyd cadarnhad eu bod am wasanaethu eu cwsmeriaid o’u prif safle yn Lloegr.

Roedd Jeff Shotter yn eithaf hyderus nad oedd unrhyw ddifrod wedi’i greu i’w fusnes, gan fod y “gwynt wedi chwythu’r tân i’r cyfeiriad arall”, ond ychwanegodd nad oedd trydan ganddo ar hyn o bryd.

Mae’r tân erbyn hyn wedi gostegu ond yn ôl llygad-dystion, mae llawer o fwg yn yr awyr o hyd ac mae’r gwasanaeth tân yn dal i fod yno.