Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cynllun i ehangu un o’i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg i ateb y galw yn y sir.
Y bwriad yw ymestyn Ysgol Gyfun Gŵyr i hen adeiladau Ysgol Fabanod Tregŵyr, er mwyn creu saith ystafell ddosbarth ychwanegol a chyfleusterau bwyta newydd.
Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys labordy gwyddoniaeth newydd a derbynfa sydd â chyntedd ‘diogel’.
Dod i’r 21fed ganrif
Gan ddibynnu ar gael caniatâd cynllunio a chyllid gan Lywodraeth Cymru, gallai’r cynllun gwerth £1.35m ar y cyd rhwng y cyngor a’r llywodraeth, ddechrau yn y gwanwyn.
Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni fesul cam er mwyn peidio â tharfu ar addysg yn ormodol ond y gobaith yw cwblhau’r gwaith erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl y cyngor, byddai’r cynllun yn dod ag amodau dysgu Ysgol Gyfun Gŵyr i’r 21ain ganrif, gan gynnwys mannau dysgu ‘hyblyg’ a chyfleusterau modern.
“Effaith gadarnhaol” ar addysg Gymraeg
“Byddai’r cynigion yn cael effaith hynod gadarnhaol ar addysg Gymraeg yn Abertawe drwy ddarparu adnoddau gwell i’r ysgol er mwyn iddi ateb y galw a ffynnu,” meddai Jen Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg.
Hwn fyddai’r cynllun diweddaraf yn rhaglen AoS Abertawe sy’n anelu at wella amgylcheddau a chyfleusterau yn ysgolion y sir.
Roedd adeilad newydd Ysgol Gynradd Tregŵyr yn rhan o’r cynllun ac mae prosiect ysgol newydd gwerth £9.7 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las yn Llansamlet wedi dechrau hefyd.